eu plith anthem ar y geiriau, "Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd." Mwynhawyd y wledd mewn gwirionedd y Sabbath hynod hwnw yn Mynydd Migneint. Bu y cyfarfod hwn o fendith amlwg i ysgolion y ddwy ardal, a gadawodd goffadwriaeth fendigedig ar ei ol. Cyn hyn, oherwydd bychander a thlodi y trigolion, ni byddai yr ysgol yn cael ei chynal yn Ffestiniog ond yn yr haf yn unig; ond o hyny allan, ni bu haf na gauaf heb iddi gael ei chynal yn gyson. Ar lawer cyfrif, hon oedd y Gymanfa Ysgolion hynotaf a gynhaliwyd yn Sir Feirionydd o'r dechreuad hyd y dydd heddyw.
SEFYDLIAD Y CYFARFOD YSGOLION
Yr oedd Gorllewin Meirionydd wedi ymranu yn bedwar dosbarth mewn cysylltiad â'r Cyfarfodydd Ysgolion o'r dechreuad, hyd o fewn rhyw bymtheng mlynedd yn ol, pryd yr ymranodd Dosbarth Ffestiniog yn dri. Yn Nghymdeithasfa Flynyddol Dolgellau, Medi 24, 1820, y gwnaed y trefniad rheolaidd cyntaf arnynt. Cafwyd y trefniad hwnw yn gyflawn yn mhapyrau Lewis William, Llanfachreth, ac yn ei lawysgrif ef ei hun, yr hwn a gyhoeddwyd yn llawn yn y Gyfrol gyntaf. A ganlyn sydd ddyfyniad o hono:—"Cynygiad ar gael gwell trefn ar y Cyfarfodydd sydd yn perthyn i'r Ysgolion Sabbothol yn y rhan nesaf i'r mor o Sir Feirionydd, sef ar y pedwar dosbarth,-1. Rhwng y Ddwy Afon, Abermaw a Dyfi; 2. Dyffryn; 3. Trawsfynydd; 4. Dolgellau. Y sylw cyntaf ar hyn a fu mewn Cyfarfod Ysgolion ardaloedd Dolgellau, yn Buarthyrê (ffermdy yn agos i Abergeirw), Gorphenaf 20, 1820. Penderfynwyd yno ar yr achos i anfon i'r dosbarthiadau eraill, i ddeisyf arnynt anfon cenhadwr dros eu dosbarth i gyfarfod blynyddol Dolgellau, Medi 24, i fwrw golwg ar gael diwygiad ar y drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau." (Cyfrol Gyntaf, tudal, 270). Dosbarth Trawsfynydd y gelwid