Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II.

——————

RHAG-REDEGWYR Y METHODISTIAID.

CYNWYSIAD.—Crybwyllion am rai o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig —Ymweliad yr Esgob Baily—Hugh Llwyd, Cynfal—Morgan Llwyd o Wynedd—Edmund Prys.

 RTH y rhag-redegwyr y golygir y rhai a fu fel dysgawdwyr yn arwain y bobl ac yn eu dysgu mewn crefydd, yn flaenorol i'r Methodistiaid. Ni pherthyn i ni yn y benod hon roddi hanes tebyg i fanwl am y cyfryw, ond yn unig grybwyll am y personau a fu, naill ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol yn dylanwadu ar y wlad, er ei moesoli a'i chrefyddoli. Pe yr enwid hwy oll, ni byddent, yn sicr, ond ychydig nifer. At yr Eglwys Wladol yr ydym i edrych am danynt gyntaf, oblegid yn ei meddiant hi yr oedd gofal eneidiau y bobl, cyn cyfodiad Ymneillduaeth. Ond hysbys ydyw na ddeffrowyd mohoni hi, hyd nes y deffrowyd y wlad trwy offerynau eraill. Nid oedd dim yn cael ei wneyd ganddi hi, yn ol yr hanes a gawn o bob cyfeiriad, i ymlid y tywyllwch ymaith, ac nid oedd arweinwyr y bobl mewn moesoldeb a chrefydd ddim uwchlaw y bobl eu hunain, ond yn hytrach yr oedd yr un fath bobl ac offeiriaid." Yn y rhestr â geir o offeiriaid plwyf Ffestiniog o 1550 i 1800, ac eithrio Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, nid oes son am yr un o honynt wedi gwneuthur cymaint o ddaioni i'r plwyfolion, fel ag i beri fod eu henwau mewn coffa ymysg eu holynwyr. A mwy na hyn, ymysg yr offeiriaid a ddiswyddwyd trwy Weithred