Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/273

Gwirwyd y dudalen hon

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Ffestiniog sydd yn teilyngu y clod o gychwyn y Gymdeithas hon; yma y planwyd y planhigyn, ac y daeth yn bren mawr, ffrwythlon, a thoreithiog. Gwnaethpwyd llawer o wasanaeth da drwyddi, a chlywyd llawer o son am dani amser aeth heibio, er nad oes eto lawn ddeugain mlynedd er ei chychwyniad cyntaf. Gwnaeth y Saeson lawer o helynt trwy briodoli iddi ddibenion nad oeddynt gywir, sef mai ei hunig amcan ydoedd dwyn elw i ryw nifer penodol o bersonau. Ond un engraifft ydoedd hyn, o blith miloedd, yn profi fod pob diwygiad, fel rheol, yn cyfarfod âg erledigaeth. Rhoddwyd eisoes grybwyllion, mwy neu lai helaeth, am dani ynglyn â'r gwahanol gapelau. I'r diweddar Mr. David Williams, Cwmbowydd, blaenor yn perthyn i'r Annibynwyr yn Bethania, Blaenau Ffestiniog, y priodolir gweithiad allan gynllun y Gymdeithas Arianol. Sefydlwyd hi gyntaf yn Bethania, ar y 24ain o Dachwedd, 1847, er cynorthwyo i dalu dyled y capel. Y cyntaf o gapeli y Methodistiaid i gychwyn y Gymdeithas oedd Bethesda. Sefydlwyd hi yno Chwefror 20fed, 1854. Rhif yr aelodau y noson gyntaf, megis yr hysbyswyd mewn cysylltiad â hanes eglwys Bethesda, ydoedd 36. Yr arian a dderbyniwyd y noson hono, 22p. 5s. Cynyddodd yn fuan ar ol ei sefydlu, ac amrywiai y swm yn y Gymdeithas hon yn unig o 300p. i 1,500p. Manteisiodd yr achos drwyddi, rhwng y llôg a dderbyniwyd o'r Banc, a'r llôg a arbedwyd, dros 1,000p. Treigl- wyd y swm o oddeutu 9,000p. trwy y Gymdeithas yn y Rhiw mewn corff 12 mlynedd o amser. Ffurfiwyd Cymdeithas hefyd ynglyn â holl gapeli eraill y gymydogaeth. Cyrhaeddid dau amean daionus drwyddi: yr oedd yn gyfle rhagorol i weithwyr a dderbynient eu cyflog yn fisol i roddi o'r neilldu yr hyn fyddai ganddynt yn weddill,—cynyrchodd a meithrinodd hyn ysbryd cynildeb a darbodaeth; yr amcan arall ydoedd, cael