Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/274

Gwirwyd y dudalen hon

arian yn ddi-lôg i dalu dyled y capelau lle y ffurfid y Gymdeithas. Y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, wrth wneuthur sylwadau ar hanes yr achos yn y Sir, yn Nghymdeithasfa Penrhyndeudraeth, Tachwedd, 1873, a roddodd grynhodeb o weithrediadau y Gymdeithas Arianol, yr hyn a ddengys ymha oleuni yr edrychid arni y pryd hwnw. Yr oedd dyled y capelau o fewn. cylch y Cyfarfod Misol, y flwyddyn y cynhelid y Gymdeithasfa uchod, ychydig dros 16,000p. Ac ar gyfer hyny cyrhaeddai gwerth ein meddianau yn nosbarth Dolgellau, 6,770p.; yn nosbarth y Dyffryn, 10,355p.; yn nosbarth y Ddwy Afon, 12,581p.; ac yn nosbarth Ffestiniog, 25,655p., yn gwneyd y cyfanswm yn 55,361p. "Pwy," ebai Mr. G. Williams, "na fuasai yn falch o etifeddiaeth o'r gwerth yna, serch fod arni rhyw ddyled o 16,000p.?" Ac elai ymlaen:—

"Y mae haelioni y cynulleidfaoedd yn gweithio mewn dwy ffordd, sef trwy roddi arian, ac hefyd trwy roddi benthyg arian yn ddi-lôg. Yn Ffestiniog y dechreuodd yr arferiad dda hon, tuag ugain mlynedd yn ol, ac yno y mae yn fwyaf llwyddianus hyd heddyw. Rhoddwyd allan yn y modd yma, yn nosbarth Ffestiniog, ac yn neillduol yn nghymydogaeth Ffestiniog ei hun, o bryd i bryd, er pan sefydlwyd y cynllun hwn, y swm o 29,841p. 9s. 2c., ac yn y rhanau eraill o'r sir 2536p. 1s. 7c., sef cyfanswm o 32,377p. 13s. 9c. Y mae yn awr allan yn menthyg y swm o 8943p. 17s. 4c. Y mae rhai o'r capelau mawr a chostus yn nosbarth Ffestiniog heb ddim llôg wedi cael ei dalu arnynt er's llawer o flynyddoedd. Yn y cyffredin y mae mwy mewn llaw na swm y ddyled ar y capel. Yn Nhanygrisiau mae mwy mewn llaw o 182p. 6s. 4c. na'r ddyled, yn Bethesda mwy o 247p. 12s. 33c., yn y Tabernacl mwy o 447p. 8s. 11c., ac yn Croesor y mae 200p. mewn llaw, er fod y ddyled wedi ei thalu er mis Awst diweddaf. Arian di-lôg y gelwir yr arian yma, ond nid wyf yn sicr fod yr enw yn briodol. Mae Duw yn sylwi ar yr hyn a gyfrenir at ei