byw i gyraedd oedran. Mae yn sicr iddo dderbyn addysg dda, ond ni wyddis ymha le, gyda'r bwriad feallai o'i ddwyn i fyny yn offeiriad. Ond gwnaeth ei ymddangosiad fel awdwr cyn ei urddo yn offeiriad. Prawf cryf o'i grefyddolder ydyw iddo gyfieithu i'r Gymraeg, pan yn 30 oed, waith defosiynol Jeremy Taylor, Rule and Exercise of Holy Living, o dan y teitl "Rheol Buchedd Sanctaidd," yr hwn a gyflwynodd i'r Esgob Humphreys, o Fangor. Yr un flwyddyn ag y cyhoeddodd y cyfieithiad, darfu i'r esgob, oddiar argyhoeddiad o'i ragoroldeb, fel y credir, berswadio yr awdwr i ymgymeryd â'r weinidogaeth. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd gan yr Esgob Humphreys, a thranoeth cyflwynwyd iddo berigloriaeth Llanfair, ger Harlech. "Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymydogaeth; ac felly cafodd dreulio cydol ei oes yn dawel, yn awyr ei dreftadaeth ei hun, ac yn mro ei enedigaeth." Wedi bod yn pregethu i'w gymydogion yn y plwyfi hyn—ac nis gallai awdwr y Bardd Cwsg amgen na phregethu yr efengyl i bwrpas—am 33ain o flynyddau, efe a fu farw, ac a gladdwyd o tan fwrdd yr allor yn Eglwys Llanfair, Gorphenaf 1734, dwy flynedd cyn i Howel Harries dori allan i bregethu yn Nhrefecca. Yn y llyfr cofrestrol mae y nodiad canlynol am ei gladdedigaeth:— "Elizaeus Wynne, Cler. nuper Rector dignissimus hujus Ecclesiae, Sepultus est 17mo die Julii, 1734."
Yr oedd efe yn weinidog a ragorai yn fawr ar ei gyd-oeswyr mewn talent a duwioldeb. Dywedai y Parch. Richard Humphreys am dano, "Gwr hynod yn ei oes, a hono yn gyffredinol yn dra llygredig. Credai pawb mai gwr da oedd Ellis Wynn." Profa ei ysgrifeniadau ei fod yn "ganwyll yn llosgi" mewn lle tywyll. Yn y rhai hyn y mae yn rhybuddio ei gyd-oeswyr, trwy ddarluniadau llymion a chryfion o sicrwydd marwolaeth, a'r cosbedigaethau dychrynllyd sydd yn aros gweithredwyr anwiredd. Er lleied o arwyddion crefydd a