Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/286

Gwirwyd y dudalen hon

welid o amgylch maes ei lafur dros lawer o flynyddau ar ol ei ddydd, mae yn sicr er hyny i amcanion mor ddyrchafedig a'r eiddo ef lwyddo i atal llawer ar annuwioldeb ei gyd-ddynion. "Yn 1703, ymddangosodd ei gampwaith llenyddol, a champwaith rhyddiaethol llenyddiaeth Gymreig, sef Gweledigaethau y Bardd Cwsg." "Cydnebydd pob ysgolhaig Cymreig ystwythder, cryfder, a thlysni ieithwedd y Bardd Cwsg ;" ac nid yw yn hawdd dweyd pa un o'r ansoddeiriau hyn sydd yn gosod allan ei brif ragoriaeth. Mae y llyfr wedi myned trwy gynifer ag ugain o argraffiadau. Cyhoeddwyd yr ugeinfed argraffiad gan Mr. Isaac Foulkes, Liverpool, yn 1888, gyda rhagymadrodd yn cynwys crynhodeb cynwysfawr o hanes bywyd yr awdwr. [1]

Nid ydym yn cael i'r un o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn y cymydogaethau hyn gyfodi i hynodrwydd heblaw awdwr y Bardd Cwsg. Yr oedd yma lawer o eglwysi er's oesau ar gyfer poblogaeth deneu, mewn rhandir gymhariaethol fechan—cynifer a chwech mewn saith milldir i'w gilydd, rhwng Abermaw a Harlech. Y mae fod y fath nifer mewn mor lleied o wlad yn edrych yn hynod, ac nid llai hynod ydyw eu lleoliad, oll o'r bron yn agos iawn i lan y môr. Gallesid disgwyl oddiwrth y fath rif o dai addoliad y buasai y trigolion wedi eu dysgu i fod yn wâr ac addolgar. Ond i'r gwrthwyneb yr ydym yn eu cael, fel y dengys y ffeithiau a ddyfynir yn y tudalenau dilynol, allan o Fethodistiaeth Cymru, gan y Parch. John Hughes.

Ysgrifenodd y doeth-wr a'r hybarch Richard Humphreys rai pethau dyddorol am yr hynafiaid yn Ardudwy, yn flaenorol i ddechreuad Methodistiaeth yn gystal ag wedi hyny. Trwy ei ysgrifau ef y portreadwyd llawer o arferion a dull trigolion y

  1. Cymru, Cyf. II., gan y Parch. Owen Jones. Enwogion Swydd Feirion, Mr. Edward Davies. Bardd Cwsg, argraffiad 1888, Mr. Isaac Foulkes.