"Yn siwr," atebai Modryb Lowri, "rhaid cyfaddef fod llawer o wylltineb ac afreolaeth ynddo eto, ynghyd â rhagfarn, llid, a chenfigen; ond y mae rhyw ddau fath o bobl yn ymddangos i mi yn bresenol, rhai yn ymdrechu i wellhau y byd, ac i gadw ei ddrwg arferion i lawr. Y mae y rwan dda a drwg i'w gweled. Nid oedd pan oeddwn i yn ieuanc ond drwg a gwaeth. Y mae bechgyn a genethod yn cael llawer o fanteision y dyddiau hyn rhagor a geid gynt yn more fy oes i. Nid oedd y pryd hwnw nemawr ddim i atal llygredigaeth ond tlodi, cosbi lladron, a chrogi llofruddion."[1]
Mae yr hanesyn canlynol wedi ei ysgrifenu gan yr un awdwr, yn ei ysgrif a elwir, Gwers ar Ryddid ac Anrhydedd o'r Oes ddiweddaf i Hon, ac a roddir yma er mantais i weled cwrs y byd yn y ddwy oes, ac hefyd er cadarnhau gwirionedd hanesyddol hanesyn arall a geir yn mhellach ymlaen, mewn cysylltiad ag eglwys Harlech:—
"Daeth un Gruffydd Evan, o Uwchglan, tua phedwar ugain mlynedd yn ol [sef oddeutu y flwyddyn 1775], at Mr. Evan Fychan, o Gorsygedol, ac a ddywedodd, Y mae eich tenant sydd yn Mhenycerig (y ddau le gerllaw Harlech) wedi myned at y Methodus, ac nid oes dim daioni i'w ddisgwyl oddiwrtho mwyach; hwy a'i gwnant cyn dloted a llygoden eglwys, a pha beth a wna â thir nac â dim arall? Ceir gweled yn fuan na ddaw o hono, fel y dywedais, ond anhwylusdod.' Y mae yn ddrwg genyf glywed,' ebe Mr. Fychan, yr oedd Harri yn burion tenant." 'Oedd o'r goreu,' ebe Gruffydd Evan, ond y mae y cwbl drosodd er pan yr ymunodd â'r bobl yna, oblegid ni wna bellach ddim ond crwydro a gwario ei arian; a chan na wna efe ddim â'i dyddyn, buaswn yn ddiolchgar am eich ewyllys da os gosodwch Benycerig i mi.' 'Wel,' ebe Mr. Fychan, 'nid hwyrach y gelli di ei gael, ond ni osodaf mo
- ↑ Methodist, Mawrth, 1856.