Byddai yn myned can belled a Lleyn, yn Sir Gaernarfon, ymofyn cyhoeddiadau; a rhag i neb fod yn amheus o'i neges, prynai fuwch, neu ryw anifail arall, i ddyfod gartref gydag ef. "Cafodd y gwr hwn ei gymell, pan oedd yn aredig yn y maes, i fyned ugain milldir o ffordd i geisio gan bregethwr ddyfod y Sabbath canlynol i'w ardal i bregethu. Gollyngodd y wedd yn y fan, a chychwynodd i ffordd ar ei draed. Cafodd y pregethwr gartref, a chafodd ganddo, gan faint ei daerni, gydsynio t'i gais. Y Sabbath a ddaeth a'r pregethwr hefyd; ond nid oedd na chapel na chynulleidfa yn barod iddo. Eithr yr oedd rhyw nifer o bobl yn y llan; disgwyliwyd gan hyny am i'r bobl ddyfod allan, a safodd y pregethwr i fyny ar ryw dwmpath, yn agos i'r ffordd y dychwelent ar hyd-ddi i'w cartrefi i roddi gair o gyngor iddynt. Safodd llawer o honynt wrando, a dwysbigwyd rhai dan y bregeth hono, y rhai a fuont ffyddlon dros Dduw hyd ddiwedd eu hoes."[1] Wedi cael cyhoeddiad pregethwr i bregethu, byddai yn ddiwyd iawn yn myned o dŷ i dŷ i hysbysu i'w gymydogion yr amser y cedwid yr oedfa. Ac yr ydoedd mor gydwybodol ac uniawn yn ei amcan, fel na adawai lonydd i neb heb eu cymell i ddyfod i wrando. "Pan oedd pregeth i fod yn Mhen'rallt ryw dro, digwyddodd i Griffith gyfarfod â gweinidog y plwyf, a gofynodd iddo, yn niniweidrwydd ei galon, a ddeuai efe i wrando ar y gŵr a ddisgwylid? a chwanegai, 'Mai pregethwr da iawn ydoedd; gŵr tebyg i chwi, syr, ydyw—mae yn offeiriad.' Ond nacâd a gafodd oddiwrth y gŵr parchedig. Ryw dro ar ol hyn, cyfarfu â Griffith Ellis yn ffair Harlech; ac mewn anwydau drwg, cododd ei ffon ac a'i tarawodd, am ei wahodd i wrando y fath ysprêd. Ond er y sarhad hwn, Griffith Ellis oedd y parotaf o bawb i wneuthur cymwynas iddo."[2]
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/292
Gwirwyd y dudalen hon