Robert Jones, Rhoslan, yr hwn a ysgrifenai yr hanes, yn bresenol yn y fintai, ac yn un o'r rhai a dderbyniodd ergyd nes oedd y gwaed yn llifo. Trowyd Griffith Ellis o'r Tyddyndu am ei fod yn noddi y pregethwyr, ond arweiniodd Rhagluniaeth ef yn fuan i Ben'rallt yn yr un plwyf. Ac yma y bu cartref yr achos am 25 mlynedd, er fod y lle gryn bellder oddiwrth Harlech. Nid oes dim sicrwydd y cynhelid moddion yn y dref y tymor hwn, oddieithr yn achlysurol. Mae yr holl wybodaeth hefyd am yr achos yn ystod yr un tymor yn gymlethedig â theulu Pen'rallt, ac eithrio ryw ychydig iawn o bersonau.
Adeiladwyd y capel cyntaf yn Harlech yn y flwyddyn 1794. Dywedir fod careg a'r dyddiad hwn yn gerfiedig arni i'w gweled yn mur y capel, hyd yr adeg yr adeiladwyd ef yn ei ffurf bresenol, chwe' blynedd ar hugain yn ol. Nis gellir rhoddi bron ddim o hanes y capel cyntaf; yn unig hysbysir fod ei gynllun a'i ddiwyg allanol a mewnol yn dra chyntefig, a'i fod wedi ei adeiladu yn yr un llecyn a'r capel presenol. Yr oedd ymlyniad yr hen batriarch o Ben'rallt yn naturiol wrth ei gartref, ac yr ydoedd yn tynu mewn oedran pan adeiladwyd y capel yn y dref. Yr oedd yr achos, modd bynag, yn cael ei adnabod fel "Achos Harlech," o leiaf, chwe' blynedd cyn adeiladu y capel. Y mae gweithred gyfreithiol ar gael, wedi ei dyddio yn y flwyddyn 1788, trwy yr hon y cyflwynai Henry Owen, Penycerig, 60p. yn rhodd tuag at ddwyn traul yr achos yn Harlech. Yr Henry Owen hwn oedd y person y cyfeirir ato yn y benod flaenorol, sef yr hwn yr aeth gŵr Uwchglan i achwyn arno at ei feistr tir, ac i geisio cael ei ffarm oddiarno, oherwydd ei fod wedi myned i berthyn i'r Methodus. Mae ei feddrod i'w weled wrth ochr hen eglwys Llandanwg, ar fin y môr, ac yn gerfiedig ar y gareg, "Henry Owen, 1801." Efe oedd un o gymwynaswyr cyntaf y Methodistiaid yn y parthau hyn, ac yn ddiameu yn un o flaenoriaid cyntaf Harlech.