Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/298

Gwirwyd y dudalen hon

offerynol i blanu yr eglwys, ond bu hefyd yn swcwr ac yn nerth iddi am hir amser yn ei mabandod. Prin y cyferfydd un â neb o blith hen grefyddwyr ein gwlad a ddangosodd gymaint o ysbryd cenhadol, a gwir ymroddiad didwyll ac unplyg er iachawdwriaeth ei gymydogion, ag a wnaeth y gŵr hwn. Arferai godi yn foreu ar y Sabbothau, a myned allan at dai ei gymydogion i'w rhybuddio o'u perygl ysbrydol, ac i'w gwahodd i ddyfod i foddion gras ac i ddarllen y Beibl. Rhanai adnodau o dŷ i dŷ, gan anog y teuluoedd i'w dysgu. Ymddiddanai â phawb ymron am yr angenrheidrwydd o gael grym crefydd; ac unwaith anturiodd roddi cyngor i offeiriad y plwyf, ond costiodd hyn gryn ofid iddo, gan i'r gŵr eglwysig roddi dyrnod iddo yn ochr ei ben, am ei ryfyg yn meiddio ei ddysgu ef. Yr oedd Catrin ei wraig yn wrthwynebol iawn i'w gŵr ar y dechreu. "Mi a'i clywais yn dweyd," ebe un a'i hadwaenai, "y byddai weithiau yn cael ei lenwi â braw, rhag i'r Arglwydd ei tharo yn farw oherwydd ei gelyniaeth." Ond daeth hi cyn hir i gydweled ac i gydweithredu â'i gŵr, ac i fod yn ymgeledd i bregethwyr ar eu dyfodiad i'r gymydogaeth. Dengys yr hanesyn hynod a ganlyn gydwybodolrwydd a didwylledd Griffith Ellis:—

"Yr oedd wedi ofni, wrth weled fod Mr. Charles yn tewychu ac yn myned yn fwy corffol, nad oedd yn arfer gwyliadwriaeth ddigonol arno ei hun mewn bwyta ac yfed; ac o ganlyniad y byddai yn debyg o golli ei ddefnyddioldeb. Daeth yr adnod 1 Cor. ix. 27, yn rymus i'w gof, Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.' Tybiodd yn ddilai mai cenadwri ydoedd cynwysiad yr adnod a roddid iddo i'w thraethu wrth Mr. Charles. Penderfynodd ufuddhau i'r hyn a dybiai yn alwad arno oddiwrth Dduw, a chychwynodd i'w daith. Cyrhaeddodd y Bala, ugain milldir o ffordd o leiaf, a chafodd y gŵr parchedig yn ei dŷ; ond erbyn cyraedd yno,