Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/314

Gwirwyd y dudalen hon

Abermaw. Yr oedd yn gadwen rhwng y crefyddwyr cyntaf a'r cyfnod llwyddianus a ddilynodd hanes yr eglwys. Fel masnachwr llwyddianus, safai yn y lle parchusaf yn y dref; gadawodd gyfoeth lawer i'w blant, y rhai a fu am flynyddoedd ar ei ol yn haelionus at wahanol achosion. Neillduwyd ef yn flaenor yr eglwys pan yn lled ieuanc, ac efe, yn ol pob tebyg, oedd ei blaenor cyntaf. Bu y Siop fawr yn enwog yn y cyfnod cyntaf fel llety i bregethwyr De a Gogledd Cymru. Yno, fel yr hysbysir, y byddai Mr. Charles yn lletya bob amser ar ei ymweliadau â'r Abermaw. Yr oedd efe fel Cornelius yn gymeradwy iawn gan holl Fethodistiaid y dref a'r wlad, ac yn fawr ei barch ymysg ei gyd-drefwyr oll. Bu farw Hydref 22, 1833.

WILLIAM ROBERTS.

Crydd wrth ei alwedigaeth. Dygwyd ef at grefydd yn mlodeu ei ddyddiau. Cafodd ei argyhoeddi trwy weinidogaeth y Parch. John Ellis. Bu taranau Sinai yn ei frawychu ar y cyntaf, ond cafodd olwg ar ddigon yn Aberth Calfaria. Ceir ei enw yntau yn agos i flaen rhestr aelodau yr eglwys, a neill-duwyd ef yn flaenor yn ŵr canol oed. Dyn dirodres a di-dderbynwyneb ydoedd; dywedai am y bygythion sydd yn aros uwchben yr anedifeiriol, serch iddo fod yn yr eglwys, os heb gredu yn Nghrist. Cyfrifwyd ef ymysg gweithwyr cyntaf yr eglwys. Yr oedd yn dad i'r Parch. Evan Roberts, y pregethwr. Yn ol llyfr yr eglwys, bu farw Mai 1829.

JOHN ELLIS.

Gŵr a berchid yn fawr fel swyddog eglwysig, yn arbenig ar gyfrif ei dduwioldeb amlwg. Yr oedd wedi cyraedd mesur helaethach na'r cyffredin o'i sefyllfa mewn gwybodaeth; ond mewn duwioldeb dwfn a dwys, gwnaeth argraff annileadwy ar Ar gyfrif ei dduwiolfrydedd, rhoddai anrhydedd ar y fan y byddai ynddo yn ngolwg byd ac eglwys. Byddai yn ei oes.