symudiad tua'r flwyddyn 1858, i'r Felinheli, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar fel swyddog eglwysig; a'r un modd pan symudodd oddiyno i Fangor Uchaf, gwasanaethodd yr un swydd yn nghapel Twrgwyn hyd derfyn ei oes. Bu farw Tachwedd 30, 1874, yn ei 80fed flwyddyn, a chladdwyd ef yn nghladdfa y teulu yn Llanaber.
EDWARD WILLIAMS, LLWYNGLODDAETH,
a dderbyniwyd yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor, Ionawr 1842. Ceir yn llyfr y cofnodau wrth ei dderbyn, "Er nad oedd y brawd a'i brofiad yn hynod lewyrchus, dewiswyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a dangoswyd mai peth mawr iawn i flaenor yw cysondeb gyda phethau crefydd." Tueddu y byddai ef at yr ochr dyner yn gyffredin. Yr oedd yn cario gydag ef gryn nifer o farciau yr oes o'i flaen.
RICHARD MORRIS, EXICEMAN.
Gŵr fu yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos yma am lawer o amser. Meddai ar natur dda, a dawn hwylus i siarad yn gyhoeddus. Bu arno awydd myned i bregethu, ond cyd- olygwyd ei fod wedi myned i oedran lled fawr; ac oherwydd hyny mai gwell oedd iddo wasanaethu crefydd mewn ffordd arall. Ymhen amser, symudodd i Fachynlleth, a bu yn barchus iawn yno hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn flaenor yn y ddau le, ac yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd, yn allanol ac ysbrydol.
OWEN WILLIAMS, GWASTADANAS.
Daeth yma yn flaenor o Sir Gaernarfon, a neillduwyd ef yn swyddog drwy godiad llaw. Yr oedd yn ddyn duwiol, ac yn bur ei gymeriad. Cadwai yn gyson at ddechreu a diweddu y moddion, ond tueddai dipyn at ei ffordd ei hun, ac ar amserau rhoddai atebion heb fod yn llariaidd. Bu farw Tachwedd 6,