Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/341

Gwirwyd y dudalen hon

yn tybied mai heddwch y daethum i i'w roddi ar y ddaear? Nage meddaf i chwi, ond yn hytrach ymrafael, &c.'

"Yr oedd Thomas Evans mor barod yn ei atebion i holl wrthddadleuon y goruchwyliwr, fel y bu raid i'r olaf roddi y goreu iddo, a chyfaddef nad oedd wiw siarad âg ef. Felly fe droes ei gefn, gan orchymyn yn gaeth na ddeuai neb o honynt yno drachefn; a chafwyd llonydd i fyned ymlaen a'r odfa hyd ei diwedd.

"Y drydedd waith, daeth William Evans, Fedwarian, i'r Morfa, yn gyfagos i'r lle y bu Robert Jones y tro cyntaf yn pregethu. Daeth Rowland Williams y Sabbath hwn i'r eglwys, a threfnodd fyned i giniawa i'r Bennar isa', fel y byddai wrth law i atal unrhyw gyfarfod gymeryd lle ar y Morfa. A mawr oedd yr ymffrost ganddo ef a'i gyfeillion ar giniaw, pa orchestion eu maint a gyflawnent ar yr achlysur. Ymdrechai Lowri, gwraig William Bedward, eu llareiddio drwy ddweyd, Dyn, dyn! ni waeth i chwi eu gadael yn llonydd.' 'Na,' atebai Rowland Williams, os cânt lonydd, fe â yr holl wlad ar eu hol.'

"Pan welodd ef, a'r rhai oedd gydag ef, y pregethwr yn dyfod, allan a hwy i'w atal i bregethu yn y fan y bwriadwyd; ond wedi eu lluddias yno, aeth William Evans a'r dorf gynulledig i lan y môr. Yma y cawsant lonydd, gan yr ystyriai yr erlidwyr y traeth fel mynwent, yn llanerch gysegredig. Dro arall y daethai William Evans i'r Coedcoch i bregethu, daeth heliwr Corsygedol i'w ddyrysu trwy chwythu y corn hela, a bu raid i'r pregethwr a'r gynulleidfa gilio o'r lle.

"Y tri cyntaf," meddai Robert Evans, "a ymunasant â'r Methodistiaid yn y Dyffryn oeddynt, Griffith Richard a'i ddwy chwaer, Jane a Gwen Richard. Cafodd Griffith Richard ar ei feddwl adeiladu tŷ, yn y Coed-coch, am y ffordd â'r lle y mae capel y Dyffryn arno, ar gwr y cyttir. Ond fe ddarfu i deulu Cors-y-gedol ameu mai gyda golwg ar roddi lle i bregethu yr