Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/347

Gwirwyd y dudalen hon

capeli yn yr holl siroedd. Ond nid oes hanes i'r Dyffryn dderbyn yr un ddimai o'r ffynhonell hono. Gelwid y capel cyntaf, ac wedi iddo gael ei ail adeiladu yr un modd, Capel Coch, oherwydd iddo gael ei adeiladu ar lanerch o dir oedd yn myned dan yr enw Coed Coch. Safai yn is i lawr na'r capel presenol, heb fod ymhell oddiwrth y Post Office. Capel Coch y geilw hen bobl y Dyffryn y capel cyntaf hwn hyd heddyw.

Yn y flwyddyn 1820 yr adeiladwyd y capel yn y lle y mae yn bresenol. Dyddiad y weithred am hwn ydyw 1823. Cafwyd y tir gan Henry Roberts, Uwchlaw'rcoed, am 18p. Dyled y capel ymhen y flwyddyn ar ol ei adeiladu, yn ol papyrau a gafwyd yn Uwchlaw'rcoed, oedd 476p. Ymhen y deng mlynedd helaethwyd ef drachefn, trwy osod oriel (gallery) arno. Yn y capel hwn y daeth yr eglwys a'r achos yn nodedig o flodenog, yn nyddiau y cewri oedd yn byw yn yr ardal. Yn 1850, yr ydym yn cael fod 100p. o ddyled arno. Ond 100p. oedd hwn, fel y tybir, a osodasid arno rhyw bum' mlynedd yn flaenorol, i dalu dyled y capelau yn nosbarth Ffestiniog. Helaethwyd ac addurnwyd y capel eto, a dygwyd ef i'r wedd allanol y mae ynddo yn bresenol oddeutu y flwyddyn 1863. Mae y ddyled ar ei gyfer yn yr ystadegau ymhen dwy flynedd ar ol hyn yn 1150p., a diameu i'r capel y waith hon gostio llawer mwy, gan eu bod wedi talu swm da o'r ddyled yn flaenorol. Hysbys ydyw i'r Parch. E. Morgan gymeryd rhan helaeth o'r trymwaith gyda'r adeiladu y tro hwn, ac yr oedd ef yn dwyn mawr sel, nid yn unig am i'r capel fod yn adeilad da, ond am iddo edrych yn dda oddimewn ac oddiallan. Y flwyddyn hon (1889), mae y capel yn myned dan gyfnewidiad trwyadl o'r tumewn, ond gadewir y tuallan yn gwbl fel yr oedd o'r blaen. Eir i draul gyda hyn o dros 800p. Adeiladwyd Ysgoldy Egryn, yr hwn sydd tua dwy filldir yn nes i'r Abermaw, oddeutu y flwyddyn 1836. Helaethwyd ac adnewydd