Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/351

Gwirwyd y dudalen hon

Humphreys ar i bawb dieithriaid oedd eisiau lle i aros ar ol, a phawb cymydogion oedd yn bwriadu cymeryd dieithriaid hefyd i ddyfod i'r llawr ar ei law ddeheu. Erbyn hyn yr oedd ein hofnau am le yn dechreu chwalu, gan y gwelem fod yno fwy yn disgwyl am ddieithriaid nag oedd o ddieithriaid yn disgwyl am le, a Mr. Humphreys yn dod o'r naill ochr i'r llall o hyd tan ofyn, 'Oes yma neb eto eisiau lle? Deued i'r ochr yma.' Rhoddodd un Lewis Evans bedwar o honom-dau o Sir Gaernarfon, a da o Sir Feirionydd-i ofal merch ieuanc, gan addaw i ni lety cysurus, a chawsom ef felly wedi ei gyraedd. Wedi goddiweddyd y teulu, gofynodd y fam i'r ferch faint oedd gyda hi o ddieithriaid? Wedi cael y cyfrif, 'Purion, purion,' atebai yr hen ŵr, 'fe gant fyned i'r daflod neu rywle.' 'Mae Lewis Evans,' ebai hithau, wedi dweyd y cant le pur gysurus.' Ho, y mae Lewis Evans yn un go groesawgar ei hunan, ac y mae yn meddwl fod pawb fel y fo ei hun.' Cawsom, yn ol rhagfynegiad Lewis Evans, le cysurus dros ben, a style uwch nag yn y wlad yn gyffredin. Rhaid i mi goffa yn arbenig am ferch fechan oedd yno, yr ieuangaf yn y teulu. Nid oedd dim modd cael lle digon gwastad ganddi i bobl ddieithr y Sassiwn. Ar ol i bawb ddarfod bwyta, gwaeddodd allan, Rhowch ddigon o fwyd i'r bobl ddieithr, mam.' Boreu dranoeth, am chwech, pregethodd Morris Anwyl, Bala, a Mr. Williams, Carneddi, Sir Gaernarfon. Am wyth, society, pryd yr ymdriniwyd ar ddyledswyddau rhieni tuag at eu plant. Daeth yn gawod o wlaw lled drom, a gollyngwyd y dyrfa oedd yn y cae i'r capel, a throwyd y gweddill o'r seiat yn gyfarfod dirwest. Areithiwyd ar ddirwest gan Mr. Rees. Pregethwyd yn gyntaf am ddeg gan y Parch. John Hughes, oddiar y frawddeg, Ac yn y byd a ddaw,' yn niwedd y 30ain adnod, o'r 10fed benod o Marc. 'Y byd a ddaw' oedd y testyn a'r bregeth. Dadseiniai y pregethwr y frawddeg hon laweroedd o weithiau gyda'i lais addfwyn a nefolaidd, nes yr oedd wedi