Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/352

Gwirwyd y dudalen hon

dwyn y gynulleidfa oll i deimlo fod y byd a ddaw yn agos atynt. Testyn y Parch. Henry Rees ar ei ol oedd, 'Beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw.' Pregeth effeithiol a nodedig iawn oedd hon. Ar ol trin yn effeithiol am wreiddyn, natur, a llwybrau anghrediniaeth, daeth at y cwestiwn, 'Beth fydd y diwedd?' Gofynai, 'Beth fydd y diwedd?' deirgwaith neu bedair, mewn dull syn a difrifol dros ben, heb gynyg rhoddi yr un atebiad, a chan sefyll yn fud am enyd rhwng pob gofyniad, ac yna gofynai,

Beth fydd y diwedd?' fel pe buasai yn myned i ateb, ond yn lle hyny dywedai, 'Fedra' i ddim ddweyd, wn i ddim.' 'Beth fydd y diwedd?' Fedra' i ddim dweyd, y mae y Beibl yn methu dweyd; 'dydyw y Beibl yn rhoi yr un ateb,' nes yr oedd y sobrwydd hyny y gweddiai ef ei hun mor ddwys am dano wrth fyned i ddweyd am hyn, wedi disgyn i raddau ar y gynulleidfa. Ar ol cyhoeddi pwy oedd i bregethu am ddau, anogai Mr. Humphreys bawb i fod yn groesawus o'r dieithriaid, 'Ac os gwelwch rywun,' meddai, 'a chôt go lwyd am dano, a blewyn go fras ynddi, wnaiff y bwyd ddim colli ei flas wrth ei roddi i hwnw,' Am ddau, pregethodd y Parchn. John Jones, Capel Dewi, a John Hughes, Liverpool. Am chwech, Mr. Phillips a Mr. Rees."

Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa, yr hon oedd yn un Chwarterol, o dan lywyddiaeth y Parch. W. James, B.A., Manchester, yn y Dyffryn, Rhagfyr 11, 12, 13, 1888. Dygwyd yr holl drefniadau ymlaen ar ran yr eglwys mewn modd hynod o hwylus a didramgwydd.

Cyn rhoddi byr hanes am y swyddogion, buddiol fyddai crybwylliad am rai eraill a fu yn wasanaethgar i'r achos, ymhlith y meibion a'r gwragedd. Lewis Evans o'r Ffactri, a fu yn athraw diwyd, cyson, ac ymroddgar. Dangosodd mewn adeg foreu ar ei oes, a chyn iddo symud i fyw i'r ardal hon ei fod yn ŵr crefyddol, ac yn berchen ar egwyddor sefydlog. Gwnaeth