Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/353

Gwirwyd y dudalen hon

lawer o wasanaeth i grefydd yn ei ddydd. Bu farw Medi 12, 1852. Hugh Evan, o Hendre-eirian, oedd wr rhadlon, cymeradwy gan bawb, a ffyddlon i achos crefydd yn ei holl ranau. Robert Jones, y Felin, oedd frawd selog a brwdfrydig, yn ddarllenwr mawr ar y Beibl, a llyfrau eraill; a thrwy ei sylwadau gadawai i'r frawdoliaeth gael mwynhau yn helaeth o ffrwyth yr hyn a ddarllenai. Un o ddynion mwyaf craffus ac anturiaethus yr ardal oedd Griffith Richard o Ddolgau, "Yr oedd yn proffesu crefydd gyda'r Methodistiaid, ac yn arddangos cryn dipyn o sel ac yni." "Prif arebydd y wlad oedd Rhisiart William o Gors Dolgau; ac yr oedd yn deilwng iawn o'r gadair."

O blith gwragedd a merched rhagorol yr ardal, gellir nodi rhestr faith. "Yr oedd Catherine Pool, o Egryn, yn un hynod mewn synwyr, pwyll, a doethineb." Lowri Williams, o'r Benar Isaf, neu modryb Lowri, fel y cyfeirid ati gyda pharch ac edmygedd gan Mr. Humphreys yn yr ysgrif a ymddangosodd ganddo yn y Methodist yn y flwyddyn 1855, oedd un o gymeriadau amlycaf yr ardal mewn addfedrwydd barn, uniondeb egwyddor, a hynawsedd ysbryd a thymer dda. Gwen Evans, Ffactri, fel ei phriod Lewis Evans, a fendithiwyd â chymeriad crefyddol uchel anghyffredin. Crefydd a son am grefydd oedd ei hyfrydwch penaf hi. Cyrhaeddodd oedran mawr; yr oedd dyddiau blynyddoedd ei heinioes ryw gymaint dros gan' mlynedd; ac yn ei chanfed flwyddyn, arddangosai gymaint o sel grefyddol ag unrhyw un o'i chyd-broffeswyr. Un o wragedd parchusaf yr eglwys oedd Mrs. Gwen Pugh, gweddw Mr. Pugh, blaenor enwog yn eglwys Salem, Dolgellau, a pherthynas agos i Mr. Humphreys. Ar ol myned yn weddw cadwai dŷ capel y Dyffryn, ac yn y sefyllfa hon, lletyodd lu mawr o weision yr Arglwydd, a chyflawnodd eu hangenrheidiau yn rhad am lawer o flynyddoedd. Gan ei bod yn gefnog o ran pethau y byd, cyfranodd lawer at achos y Gwaredwr.