Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

amser; nid yw yr ardalwyr yn cyrchu yno am eu brethynau a'u gwlaneni; ac anfynych y mae hyd yn nod y cymydogion agosaf yn croesi y corsydd gwlybyrog tuag at y bwthyn anghyfanedd. Ond y mae hynodrwydd yn perthyn i'r lle er hyny, nas gallodd helyntion y ganrif aeth heibio mo'i wisgo ymaith, ac nis, gall ychwaith holl ddigwyddiadau canrifoedd i ddyfod wneyd hyny. Dyma fan cychwyniad crefydd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn y parthau hyn o Sir Feirionydd.

Pan roddwyd y cychwyniad hwn i grefydd, trwy ddyfodiad Lowri Williams i drigianu i Bandy-y-Ddwyryd, yr oedd 131 o flynyddoedd wedi myned heibio er pan fuasai farw Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, a chan' mlynedd ond pedair er amser marwolaeth Morgan Llwyd o Wynedd. Beth oedd cyflwr y wlad yr holl flynyddau hyn? Nid oes ond un ateb i'w roddi, sef fod tywyllwch ac anwybodaeth wedi ei gordoi, a'i thrigolion wedi eu llwyr adael, heb neb yn gwneuthur ymdrech i ddangos iddynt y ffordd i'r bywyd. Nis gallwn lai na choledd y gobaith ddarfod i lawer o wrandawyr gŵr mor rhagorol a'r hwn a drôdd y Salmau ar gân, a chynorthwy-ydd y Dr. Morgan i gyfieithu yr Ysgrythyrau, gael eu dwyn i adnabod y Gwaredwr. Ond ar ol yr Archddiacon, nid ydym yn cael hanes am neb yn y fro hon yn cyfodi bys na llaw, er gwneuthur ymdrech i oleuo y bobl am bethau y fuchedd dragwyddol. Hyn sydd sicr, mai yn y cyfnod hwn, trwy gyfraith Seneddol yn amser Cromwell, y trowyd allan o'r llanau plwyfol yn y dywysogaeth chwech ugain o offeiriaid, "oherwydd anwybodaeth, segurdod, ac anfoes," ac yr oedd offeiriad plwyfi Maentwrog a Ffestiniog yn un o'r chwech ugain. Gellir canfod oddiwrth y pethau yma pa mor isel oedd crefydd yn y plwyfi hyn a'r wlad o amgylch. Heblaw hyny, ceir awgrymiadau pendant yn hanes y wraig ragorol a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i roddi ysgogiad i'r diwygiad crefyddol, fod arferion pobl y wlad yn yr amgylchoedd yn ei