Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/363

Gwirwyd y dudalen hon

nid anenwog oherwydd ei gysylltiadau crefyddol. Bu yn byw am dymor yn Tŷ mawr, Towyn. Nid oedd ond tair blynedd er pan ddaethai i fyw i'r Dyfiryn; eto yn yr ysbaid byr hwn enillodd le dwfn yn serch yr eglwys. Dewiswyd ef yn flaenor ymhen ychydig wedi iddo ddyfod yma. Yr oedd yn ŵr hynod o gymeradwy ar gyfrif ei addfwynder, a lledneisrwydd ei gymeriad. Cydgyfarfyddai ynddo gyfuniad prydferth o'r boneddwr a'r Cristion. Bu farw Hydref 18, 1882, er galar a cholled i'w deulu ac i'r eglwys.

Y mae eraill sydd eto yn fyw, ond a symudasant o'r ardal, wedi gwasanaethu swydd blaenor yn yr eglwys hon,-Mri. Robert Jones, Caemurpoeth—yn awr yn Ffestiniog; Thomas Lloyd-yn awr yn Nghwm Nancol; R. Williams, Ysgol y Bwrdd yn awr yn Nhanygrisiau; Richard Ellis-yn awr yn America; y Parch. Edward Jones, Rhydlydan, ac eraill.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt,-Mri. Hugh Williams, R. J. Williams, Ellis E. Williams, Robert Jones, Robert Wynne, Lewis Jones, Howell Powell.

Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r eglwys,-y Parch. Edward Morgan, o'i ymsefydliad yma yn arhosol yn 1849, hyd ei farwolaeth, Mai 9fed, 1871; y Parch. Evan Jones, o 1872 hyd ei symudiad i Foriah, Caernarfon, yn 1875; y Parch. Edward Jones, am oddeutu blwyddyn cyn ei fynediad i Rydlydan; y Parch. William Thomas, o 1879 hyd ei fynediad i Bwllheli yn 1888. Mae y Parch. Evan Roberts, y gweinidog presenol, wedi ymsefydlu yma er y flwyddyn 1888.

Nifer y gwrandawyr, 524: cymunwyr, 297; Ysgol Sul, 330.

Y GWEINIDOGION.

Y PARCH. THOMAS WILLIAMS.

Genedigol ydoedd ef o Sir Gaernarfon. Daeth i'r sir hon i