Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/372

Gwirwyd y dudalen hon

pryd yr oedd Robert Roberts, Clynog, yn pregethu. Mae yn yr ardal le mewn craig, yr hwn a elwir Pulpud Ffoulk,' am mai gŵr o'r enw hwnw a'i gwnaeth. Yn y lle hwn y safai y pregethwr, ac o'i flaen ef yr oedd torf fawr o wrandawyr. Ar ganol y bregeth, daeth yn wynt a gwlaw anarferol, fel nad oedd modd i neb sefyll allan. Gyda bod y dymhestl yn dechreu, cododd Robert Roberts ei ddwylaw a'i wyneb tua'r nef, a gweddiodd, 'O! fy Nuw, pâr hamdden dros enyd i lefaru a gwrando am dy Fab.' A chyn pen pum' mynyd yr oedd y gwynt wedi llonyddu a'r awyr wedi clirio. Disgynodd syndod aruthrol ar bawb, torodd yn orfoledd ar rai dan y bregeth, a pharodd argraff ddofn ar bawb ag oedd yn y lle mai 'bys Duw oedd hyn.'"

Feallai fod eisiau crybwyll, er mwyn rhywrai, fod y Gwynfryn yn sefyll oddeuta milldir oddiwrth Lanbedr, yn nghyfeiriad Uwch Artro, neu Ddrws Ardudwy, yn ngwaelod cymydogaeth brydferth, ac ar lan yr afon Artro. Yn 1816, yr oedd yn daith Sabbath gyda Harlech a Thalsarnau. Fe fu am flynyddau lawer wedi hyny yn daith gyda'r Dyffryn, cyn bod achos wedi ei sefydlu yn Llanbedr, ond yn nechreu 1854, ymryddhaodd oddiwrth y Dyffryn, ac aeth yn daith gyda Chwm Nancol. Wedi adeiladu capel Llanbedr, cysylltwyd ef fel taith a'r Gwynfryn. Yn 1873 drachefn, aeth y ddau le hyn yn ddwy daith ar eu penau eu hunain, ac felly yr arhosant hyd yn awr.

I wneyd i fyny am mor ychydig o hanes crefydd yn y Gwynfryn oedd yn wybyddus yn flaenorol, gwneir defnydd helaeth o Draethawd a ysgrifenwyd ryw bump neu chwe' blynedd yn ol gan Miss Ellen Davies, Hafodycoed, ar "Hanes yr Achos Methodistaidd yn y Gwynfryn a'r Amgylchoedd." Yr oedd y traethawd hwn yn fuddugol mewn Cyfarfod Cystadleuol a gynhaliwyd yn yr ardal. Casglwyd yr hanes o enau amryw o'r hen bobl hynaf. Gan fod Miss Davies yn ysgrifenu