Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

y saint, ond nid oedd un yn agos ati; dyheai am gyfarwyddyd a chyngor, ond nid oedd un yn y teulu, nac yn y wlad, a allasai ei roddi iddi; eiddigeddai yn achos sefyllfa isel a thruenus chymydogion, ond beth a allai gwraig ei wneuthur? Nid oedd bregethwr yn nes na Lleyn neu y Bala; nid oedd nac Ysgol Sabbothol na llyfr yn mron ar gael i oleuo gradd ar y gaddug dywyll. Yr oedd y rhagfarn, hefyd, yn erbyn y crefyddwyr mor gryf yn yr amgylchoedd hyn ag yn ei bro ei hun; ac os dangosai yn amlwg, trwy ryw gais o eiddo ei hawyddfryd, i ddwyn y penau-cryniaid i'r wlad y daethai hi iddi, ac yn yr hon nid oedd eto ond dieithr a diamddiffyn, pa sarhad ac anfri ni allai ddisgwyl i ddymchwel yn genllif aruthrol arni ac ar ei theulu. Dan y fath amgylchiadau, yr oedd yn dra anhawdd iddi ymarfogi yn ddigon gwrol i wneuthur cais at unrhyw beth yn yr achos; a phe teimlai ei hunan yn ddigon penderfynol ei meddwl i wneuthur cais at hyny, yr oedd yn anhawdd dychymygu pa beth a wnai, a pha. fodd. Ond yn ei sefyllfa hi, fe wirwyd y ddiareb, Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!' Trwy ryw foddion neu gilydd, hi a gafodd gan ryw rai ddyfod yn awr ac eilwaith i Bandy-y-ddwyryd i bregethu, a bendithiodd Duw ymddiddanion Lowri Williams, a phregethau achlysurol ei weision, i enill ryw nifer ychwanegol ati. Mae ein hanes yn brin iawn ynghylch y dull a'r modd yr ymosodwyd ar y gwaith da,—pwy oedd y pregethwyr, nac o ba le y daethant;. ond y mae genym hanes am un amgylchiad nodedig y bu y wraig hon yn offeryn i ddychwelyd un llanc ieuanc gwyllt at Dduw, yr hwn a fu ar ol hyny yn nodedig ddefnyddiol, yntau hefyd, yn ei ardal, i rwyddhau mynediad yr achos yn ei flaen.

Yr oedd Lowri Williams yn arfer tori at bawb, y rhoddid cyfleustra iddi i wneyd hyny, am bethau crefydd. Ni adawai lonydd i neb, ac ni ollyngai un cyfleusdra i fyned heibio, heb