Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/386

Gwirwyd y dudalen hon

Ni byddai yn traethu yn faith ar unrhyw fater, ond gwnai sylwadau byrion, cynwysfawr, a phob amser at y pwrpas. Arferai holi yn gyhoeddus oddiar y benod a ddarllenid mewn cyfarfodydd gweddi, ac nid ychydig oedd ei gymhwysder i hyn, gan ei fod mor hyddysg yn yr Ysgrythyr, ac mor alluog fel duwinydd. Nid oes llawer o'i gwestiynau ar gael, ond adroddai un hen chwaer ei fod yn gofyn iddi yn Ysgol Sul y Dinas, "Pa un ai Duw o naturiaeth ai Duw o hanfod ydyw Duw," yr hyn a ddengys y byddai ei gwestiynau allan o'r ffordd gyffredin. Gwr mawr oedd ef, hefyd, mewn gweddi, yn arbenig y weddi ddirgel. Daw hyn i'r golwg yn y chwedl ganlynol a adroddai ei gyfaill a'i gymydog, John Williams, y Dinas. Yr oeddynt ill dau yn cysgu gyda'u gilydd unwaith yn un o ffermdai y gymydogaeth, yn nghanol prysurdeb y cynhauaf gwair. Rywbryd wedi myned i'r gwely, gofynai John Jones i'w gyfaill John Williams, "Wyt ti yn cysgu?" "Nac ydwyf," oedd yr ateb. Gofynai yr ail waith, "Wyt ti yn cysgu?" "Nac ydwyf," ebai y llall. Nis gwyddai yn iawn beth oedd ei amcan yn gofyn y cwestiwn, ond fe benderfynodd, os gofynai drachefn, i ateb ei fod yn cysgu. Ymhen enyd, gofynwyd y cwestiwn y drydedd waith, "Wyt ti yn cysgu?" "Ydwyf," oedd yr ateb y waith hon. Gyda hyny cyfodai John Jones o'i wely, ac aeth ar ei liniau. Ei gyfaill, yr hwn oedd yn ddigon effro, a sylwai arno yn aros ar ei liniau yn hir. O'r diwedd, clywai ef yn dywedyd, "Wel, Arglwydd mawr, gan nad oes genyt ti ddim i'w ddweyd wrthyf, fe af fi i fy ngwely." Felly yr aeth. Rhoddai y tro hwn argraff ar feddwl ei gyfaill mai dyma arfer yr hen Gristion o ddal cymundeb a'r Arglwydd.

Ffaith arall tra hynod i brofi duwioldeb yr hen bererin hwn o'r Gwynfryn ydoedd, yr hyn a adroddwyd gan Griffith Pugh, un o flaenoriaid Llanfachreth. Byddai John Jones arferol a threulio rhan o'i amser gyda'i orchwyl yn nghymydogaeth