Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

yn ddwfn a ffrwytho yn helaeth. Dywedasai wrthi hi na ddeuai efe i wrando ar y pregethwr; ac nid oedd ar y pryd yn bwriadu dyfod yn agos at y fath bobl, ac ar y fath neges. Ond nid oedd lonyddwch i'w gael, a pha beth a wneid? Yr oedd ei enaid yn gwaedu gan drallod ac ing, ac yn dyheu am orphwysdra; yr oedd yn rhaid ysgogi yn rhyw gyfeiriad. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned i wrando pa beth a allai fod gan y gwr i'w ddweyd ynghylch y ffordd i'r bywyd.' Yno hefyd yr aeth, ac nid ofer fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr colledig, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu llwyr adael ei hen gyfeillion a'i arferion gynt, ac i ymroi i wasanaeth yr Iesu am ei oes. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Hwn oedd y gŵr y dywedasom iddo ollwng y wedd pan yn aredig yn y maes ganol dydd, a myned ugain milldir ar ei draed, i grefu ar bregethwr i ddyfod i'r ardal y Sabbath canlynol; hwn hefyd yw y gŵr y byddai offeiriad anystyriol ei blwyf ofn ei gyfarfod gan amlyced oedd ei dduwioldeb, a chan hallted oedd ei ymadroddion. Fe fu Griffith Ellis yn fendith fawr yn ei ardal ei hun, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol.

Er fod dychweliad Griffith Ellis ei hun o werth annrhaethol iddo ei hun, ac o ddefnyddioldeb mawr i achos yr efengyl, eto nid hyn oedd yr unig les a ddeilliodd o gynghorion Lowri Williams; ond ymestynodd ei dylanwad yn mhellach, a bendithiwyd ei hymdrechion i raddau llawer mwy. Trwy ei dylanwad crefyddol hi yn ei theulu, y gwnaed ei gŵr yn foddion i dynu i lawr yr halogiad gwrthun oedd ar y Sabbath yn Nhrawsfynydd. Ymhen rhyw amser, casglodd wyth at eu gilydd i ffurfio cymdeithas eglwysig fechan, ac yn ei thŷ hi y cynhelid y moddion hyn. Gelwid y gymdeithas hon Teulu Arch Noah,' oblegid wyth enaid oedd o honynt. Eu henwau