Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/416

Gwirwyd y dudalen hon

Y PARCH. O. PARRY-OWEN.

Cafodd ef ei fagu yn Abermaw. Wedi colli ei dad a'i fam, symudodd at ei frawd i Rostryfan, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu o dan addysg yn Nghlynog am dymor byr, ac yna aeth i Athrofa y Bala. Ar ol gorphen ei amser yno, ymsefydlodd yn Abermaw trwy ymbriodi â Miss Jones, o Porkington Terrace, ac yn fuan, ymgymerodd â bod yn weinidog yr eglwys Saesneg yn y lle. Bu am flwyddyn drachefn yn weinidog ar eglwys Tregynon a Beulah, Trefaldwyn Isaf. Dychwelodd yn ol i Orllewin Meirionydd trwy dderbyn galwad eglwysi Llanbedr a'r Gwynfryn. Rhoddodd brofion eglur ei fod yn meddu talent i bregethu yn y ddwy iaith. Yr oedd yr elfen weithgar yn dra amlwg ynddo, ac yr oedd yn llenor da. Ond er galar i'w deulu a'i liaws cyfeillion, nos Lun, Mai 19eg, 1890, bu farw yn yr oedran cynar o 29.

LLANFAIR.

Yn ddiweddar, mewn cymhariaeth, y dechreuwyd achos rheolaidd yn Llanfair. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1866, ac ymhen dwy flynedd corfforwyd eglwys yn ffurfiol ynddo. Ond cynhelid moddion crefyddol yn yr ardal er yn bur foreu. Yn y Tyddyn-du, yn y plwyf hwn, ac yn Pen'rallt. wedi hyny, yr oedd Griffith Ellis yn byw. Efe, fel y ceir yr hanes mewn cysylltiad â Harlech, a fu yn offeryn i ddwyn pregethu gyntaf i ddosbarth y Dyffryn; ac yn ei dŷ ef, yn mhlwyf Llanfair, yn ol pob hanes, y bu y Methodistiaid yn pregethu gyntaf erioed yn y wlad hon. Yr oedd hyn, gellir tybio, heb fod ymhell oddiwrth y flwyddyn 1770. Yn fuan wedi iddo agor ei ddrws yn y Tyddyn-du i noddi y pregethwyr, derbyniodd rybudd i ymadael. Ond rhoddodd ei feistr tir iddo ei ddewisiad, "Yr un a fynai, ai peidio coledd y fath bobl, ai ymadael o'r Tyddyn-du." Yr ateb a roddodd Griffith Ellis i'w feistr tir oedd, "Bod yn well ganddo golli ei dyddyn.