Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/417

Gwirwyd y dudalen hon

na cholli ei enaid." Cafodd crefyddwyr Llanfair felly esiampl ragorol yn eu rhag-flaenor, sef yn y Methodist Calfinaidd cyntaf erioed yn y plwyf.

Harlech oedd cartref yr achos yn amser yr hen batriarch Griffith Ellis. Ac hyd y flwyddyn grybwylledig yn y paragraff blaenorol, rhan o eglwys a chynulleidfa Harlech oedd Methodistiaid ardal Llanfair. Yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn y gymydogaeth er tua'r flwyddyn 1812. Mewn ffermdy o'r enw Ymwlch y dechreuwyd ei chadw, ac yno y bu am rai blynyddau yn nechreuad ei hoes. Preswyliai yn Ymwlch y pryd hwn, medd yr hen bobl, Ellin Edwards a'i gŵr, Rhys Evan. Enwir y wraig yn gyntaf am mai hi oedd fwyaf selog gyda'r ysgol. Yr oedd yn aelod o eglwys y Gwynfryn. Yr oedd i'r ddeuddyn hyn ddau neu dri o feibion, a phedair o ferched; un o ba rai, fe'n hysbysir, ydoedd gwraig y Parch. Morris Roberts, o Brynllin, pregethwr poblogaidd, yr hwn gyda'i deulu a ymfudodd i'r America, yn rhywle oddeutu y flwyddyn 1830. Dywed yr hen bobl eto mai cyfeillion o'r Gwynfryn a ddechreuasant yr ysgol yn Ymwlch, ymhlith pa rai yr enwir fel athrawon ac athrawesau,-Owen Evan, o Dalygareg; William Dafydd, y gof, Llanbedr; William Rhisiart, Tyddynypandy; a Mrs. Anne Lewis, Tymawr.

Oherwydd ymadawiad y teulu, ac anghyfleusdra y lle, symudwyd yr ysgol o Ymwlch i bentref Llanfair. Cynhelid hi am ysbaid mewn gweithdy crydd, perthynol i Mr. Owen Richards, Tŷ'nllan. Un o'r hen weithwyr yn y gweithdy hwn ar hyd y chwe diwrnod ydoedd Samuel Griffith, yr hwn hefyd a fu yn weithiwr ffyddlon gyda'r Ysgol Sul a gedwid yno. Perthynai ef fel aelod i eglwys y Gwynfryn. Gan mai ar ol moddion y boreu yn y Gwynfryn y byddai yr ysgol yn cael ei chadw yn Llanfair, byddai helynt flin yn aros cyfeillion y lle cyntaf i gasglu y plant ynghyd, y rhai a aent erbyn hyn ar wasgar i bob cwr, rhai cyn belled a Morfa Harlech, ac eraill