ol. Profodd yn ymgeledd gymwys i eithaf y gair. Ar ol ymadawiad Humphrey Evans i'r America,[1] syrthiodd yr achos, a'r ysgol ar ysgwyddau Evan Thomas, Pen'rallt, ond nid hir y bu yntau heb gael ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Wedi hyn syrthiodd gofal yr ysgol yn benaf i ddwylaw Owen Roberts, Rhiwcenglau, yr hwn fel y mae yn hysbys oedd yn flaenor yr eglwys hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ganol y flwyddyn 1888. Yr oedd ef yn ddolen gydiol rhwng dyddiau mabandod yr achos a'i ddyddiau presenol, ac nid yw yn ormod dweyd mai efe oedd tad yr achos yn y lle. Yr adeg y daeth y gofal arno ef, trwy lawer o symudiadau o'r ardal, gwanhaodd yr ysgol yn fawr. Cawsant gymorth dros ryw dymor eto oddiallan i gario yr achos ymlaen; bu Mr. W. Lewis, Tymawr, yn rhoddi llawer o wasanaeth gwerthfawr yma y pryd hwn. Ond er derbyn cymorth oddiallan, ni buasai yr un achos Methodistaidd yma oni bai i'r ardalwyr eu hunain ymaflyd o ddifrif yn y gwaith o'i gychwyn.
Y crybwylliad cyntaf a welsom o berthynas i ysgogi tuag at gael capel yn y gymydogaeth ydyw y penderfyniad canlynol a geir yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Harlech, Ebrill, 1861, "Bu ymddiddan am ardal Llanfair, a'r angen sydd am gapel yno; penodwyd y Parch. Edward Morgan i geisio cael lle i adeiladu un." Hyd y flwyddyn 1866, yr oedd Talsarnau a Harlech yn un daith Sabbothol. Y flwyddyn hon aeth Talsarnau yn daith arni ei hun, gan adael Harlech a Llanfair gyda'u gilydd. Bu hyn yn foddion i symbylu y cyfeillion ymlaen. Teimlid fod y lloft yn lle anfanteisiol i bregethu, a
- ↑ Gwnaeth Humphrey Evans wasanaeth mawr gydag achos crefydd yn America. Yr oedd yn un o'r rhai a gychwynodd yr achos Methodistaidd yn Racine. Yn ei dŷ ef y cynhaliwyd y cyfarfod gweddi a'r Ysgol Sul Gymreig gyntaf yno, ac efe a roddodd y tir at adeilad y capel. Bu farw yn Nghymru, yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. Robert Ellis.