Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/421

Gwirwyd y dudalen hon

oriaid yr eglwys yn awr ydynt, Mri. Ellis Lloyd, Robert Williams, Griffith Thomas, Robert Richards.

Rhif y gwrandawyr, 142; cymunwyr, 78; Ysgol Sul, 97.

OWEN ROBERTS, RHIWCENGLAU.

Dygwyd ef i fyny yn yr ardal hon. Yr oedd yn blentyn wyth oed pan y dechreuwyd cynal Ysgol Sul yn Mhentref Llanfair. Yn ol ei adroddiad ef ei hun, byddai yn arfer pan yn fachgen lled ieuanc, aros ar ol y moddion yn Harlech i fod yn gwmpeini adref i Evan Thomas, Pen'rallt, yr hen flaenor selog. Diameu i'r dyddordeb a gymerai mewn crefydd ar hyd ei oes, wreiddio ynddo y pryd hwnw. Pan oedd tua 32 oed, fel y gwelwyd, disgynodd gofal yr Ysgol Sul yn Llanfair arno ef, a daliodd yn ffyddlon gyda hi dros faith flynyddoedd, yn ngwyneb llawer o dywyllwch, ac ond ychydig o argoelion llwyddiant. Gweithiai yn ddiwyd gyda'r achos yn Harlech, er fod ganddo gryn ffordd o'i gartref yno; dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys yno, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Medi 1861. Symudodd gyda'r gangen eglwys i Lanfair, ac efe oedd ei phrif arweinydd o'r cychwyn cyntaf. Er nad oedd ganddo ond gweithio yn ddiwyd ar hyd ei oes i enill ei fywoliaeth, gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd yn yr ardal hon. Bu yn noddwr o'r fath oreu i eglwys Llanfair am yr ugain mlynedd cyntaf o'i heinioes. Bu ei ffyddlondeb fel blaenor eglwysig yn amlwg i bawb. Yn ychwanegol at hyny, yr oedd ganddo fedr neillduol i roddi pobl ieuainc mewn gwaith, ac i'w tynu allan i weithio. Bu farw a'i goron ar ei ben, Mehefin 25, 1888, yn 78 oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Methodistiaid Calfinaidd yn Harlech.

EGLWYS SAESNEG ABERMAW.

Amryw flynyddau cyn sefydlu achos rheolaidd, arferid cynal moddion Saesneg, yn misoedd yr haf, yn y capel Cymraeg, am