Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/425

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III.

YR YSGOL SABBOTHOL YN NOSBARTH Y DYFFRYN.

CYNWYSIAD. Nodau gwahaniaethol y Dosbarth—Yr ysgolion a ddechreuwyd gyntaf—Thomas Bywater—Ysgol Hendre-cirian—Y Cyfarfod Ysgolion cyntaf—Y cyfrifon cyntaf-Cofnodion Hugh Evan, Hendre-cirian, a John Jones, Plasucha—Ysgrifenyddion eraill y Cyfarfod Ysgolion—Y Parch. Daniel Evans—Holwyddorwyr eraill—Llywyddion—Y Gymanfa Ysgolion—Gwyl Can'mlwyddiant 1885.

 EDI gweled dechreuad a chynydd yr Ysgol Sabbothol mewn tri dosbarth o fewn cylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr ydys yn awr yn dyfod at y pedwerydd, sef dosbarth y Dyffryn. Un nod gwahaniaethol ar yr hanes yn y rhanbarth hwn ydyw, fod y prif eglwysi wedi eu planu yn flaenorol i sefydliad yr Ysgol Sul; cafodd yr ysgol ei dechreu yma ar ol yr eglwysi, tra yr ydys yn gweled mewn llawer o fanau fod yr eglwysi yn dyfiant o honi hi. Erys graddau o dywyllwch ar y modd y cychwynwyd hi mewn cysylltiad â'r eglwysi hynaf, am nad oes neb yn fyw yn awr i adrodd yr hanes. Yn ol yr adroddiad a roddwyd ar ddydd Can'mlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn 1885, gan Mr. Rees Roberts, Harlech, y lleoedd a roddodd y cychwyniad cyntaf iddi oeddynt Harlech, Abermaw, a'r Dyffryn. Nis gellir olrhain yr hynaf o'r ysgolion, sef yr un a gychwynwyd gan Griffith Ellis, Pen'rallt, gerllaw Harlech, yn bellach yn ol na'r flwyddyn 1792. Hawlia un neu ddwy arall yn y dosbarth eu dechreuad ychydig flwyddi yn flaenorol i 1800. Nid oedd