ymlaen. Un arall ydoedd, fod dau olygwr i berthyn i bob ysgol. Un arall, fod i'r athrawon ddyfod i'r ysgol bob Sabbath, oni byddai i ryw beth neillduol eurhwystro; neu ofalu am anfon rhywun yn eu lle. Yr oedd yn arferiad, hefyd, i gynal society nos Sadwrn o flaen Sul y cyfarfod ysgolion, yn y lle y cynhelid ef, i gael ymdrafodaeth gyda phroffeswyr crefydd o berthynas i waith yr Ysgol Sabbothol. Y cyfrifon cyflawn cyntaf am yr ysgolion ydyw yr hyn a gafwyd yn llawysgrifen Hugh Evan, Hendre-eirian, yn yr hen lyfr cofnodion y cyfeiriwyd ato,"Cyfrif o'r ysgolion, o'r Bermo i Dalsarnau, am y flwyddyn yn dechreu Gorphenaf 16, 1820, hyd Gorphenaf 8, 1821. Pum' ysgol, ynghyd â'u canghenau, sef un yn perthyn i'r Bermo; dwy yn perthyn i'r Dyffryn; dwy i'r Gwynfryn; un i Harlech; a dwy yn perthyn i Dalsarnau-tair ar ddeg o ysgolion i gyd.
Rhifedi yr ysgolion i gyd yn un swm 1147. Y cyfrif hwn yn cael ei anfon i Ddolgellau i'r Cyfarfod Daufisol, a'i ddelifro i Richard Jones, o'r Wern, Gorphenaf 29, 1821." Hugh Evan, Hendre-eirian, oedd ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion. Yr oedd efe ar y blaen gyda phob gwelliant, yn wladol a chrefyddol. Ystyrid Hendre-eirian yn ei ddyddiau