Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/432

Gwirwyd y dudalen hon

lawer o gymhwysderau at waith yr Ysgol Sabbothol. Hysbys ydyw mai yn y cyfnod o 1841 i 1871 yr oedd y Parch. Edward Morgan yn byw yn y Dyffryn. Cyrhaeddai ei ddylanwad ef ymhell, a chreai fywyd ymhob peth y gosodai ei law wrtho. Ond gan fod ei boblogrwydd fel pregethwr mor fawr, a chymaint o alwadau arno i lenwi teithiau y wlad ar y Sabbothau, nis gallai roddi cymaint o'i amser ag eraill o'i frodyr gyda'r Cyfarfodydd Ysgolion. Eto, tystiolaeth y rhai sydd yn cofio y blynyddoedd hyny ydyw, nad oedd neb tebyg iddo ef am gael y bobl i ateb pan y byddai yn holwyddori yn y cyfarfodydd hyn. Yn y flwyddyn 1855 yr ymsefydlodd y Parch. Griffith Williams yn Nhalsarnau. Ac am o leiaf ddeng mlynedd, bu gofal y Cyfarfodydd Ysgolion bron yn hollol arno ef. Yn ystod y pum' mlynedd ar hugain diweddaf, wedi i gysylltiad gweinidogaethol rhwng y gweinidogion â'r eglwysi ddyfod yn fwy cyffredinol, y mae nifer y rhai a breswylient yn y dosbarth yn fwy, ac y mae wedi bod yn arferiad i'w hethol oll yn eu cylch, bob rhyw un, neu ddwy, neu dair blynedd, i fod yn ofalwyr am y Cyfarfodydd Ysgolion.

Yn yr amser aeth heibio, y gweinidog a ofalai am ysgolion y cylch oedd llywydd y Cyfarfod Ysgolion wrth ei swydd. Y mae un eithriad hefyd, o leiaf, i hyn. Bu Mr. Owen Owen, gynt o'r Glynn, yn llywydd am saith mlynedd, yn amser y Parch. Daniel Evans. Ddeng mlynedd yn ol, penderfynwyd i ethol llywydd yn rheolaidd ar wahan i'r gofalwr a'r holwyddorwr. Mae y personau canlynol wedi bod yn llywyddion yn ol y drefn hon,—Mr. Ellis Edwards, Hafodycoed, o 1880 i 1884; Mr. R. J. Williams, Llythyrdy, Dyffryn, o 1884 i 1890. Y llywydd etholedig eleni (1890), ydyw Mr. E. R. Jones, Llythyrdy, Abermaw. Y Gymanfa Ysgolion gyntaf a gynhaliwyd yn y Dosbarth, yn ol cynllun y blynyddoedd diweddaf o'u cynal, ydoedd yn y Dyffryn, yn y flwyddyn 1870. Y Parchn. D. Charles Davies, M.A., a Joseph Jones, Menai Bridge, oeddynt yr holwyddor-