Anfonodd at ei gefnder, yr hwn oedd gyfreithiwr yn Llundain, i adrodd yr hanes. Cymerodd y gŵr hwn yr achos yn ei law ei hun. Yr oeddis wedi cael ar ddeall mai gwraig foneddig yn y gymydogaeth, yr hon yn fuan ar ol hyny a briododd. berson y plwyf, oedd wedi rhoddi yr erlidwyr ar waith; ac anfonodd y cyfreithiwr lythyr swyddogol yn uniongyrchol at y wraig foneddig, gan ei rhybuddio, os parhai i arfer creulondeb at ddeiliaid heddychol y deyrnas, y rhoddid hi yn ddiatreg yn ngafael y gyfraith, ac y byddai raid iddi ddioddef cosb haeddianol am ei thraha.
Cyrhaeddodd y bygythiad ei amcan. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi hyny, bu gan Rowland Jones, mab Lowri Williams, neges i fyned i'r palas, lle yr oedd y wraig foneddig yn byw, a deallodd trwy un o'r gweision fod llythyr wedi dyfod ac wedi achosi braw a dychryn. Ac yn rhagluniaethol iawn, daethpwyd o hyd i gynwys y llythyr. Yr oedd wedi ei adael yn agored yn y parlwr, a thra yr oedd ei feistres allan yn rhodio, cafodd y gwas wybod ei gynwys, yr hyn a wnaethpwyd yn hysbys i deulu Lowri Williams. Dywedir fod y llythyr hwn wedi bod yn foddion i roddi atalfa ar yr erlid o hyny allan, Yr oedd ei gynwys yn debyg i hyn:—
"Mrs. Griffith,—
"Yr ydwyf wedi clywed eich bod yn cyfodi yn erbyn y Llywodraeth, trwy anfon eich gweision i labuddio eich cymydogion; canys nid yw Llywodraeth Lloegr yn caniatau llabuddio neb, fel y gwnaeth eich gweision chwi â Thomas Foulkes a Lowri Williams, yn y Gwylan (yr amser a'r amser). Os myfi a glywaf eto eich bod yn parhau i erlid (na neb arall), myfi a fyddaf yn eich erbyn, ac a'ch cosbaf i'r eithaf, er cymaint gwraig foneddig yr ydych yn tybio eich hun.
- Hyn oddiwrth,
- ROWLAND JONES, Attorney, &c."[1]
- ↑ Methodistiaeth Cymru, I., 529, a Pandy-y-Ddwyryd, Parch. G. Williams.