dymor maith yn y dechreuad. "Yn y Bala," dywed y Parch. Jno. Hughes, "yr oedd yr holl bregethwyr a feddai y sir Yn byw, oddieithr un neu ddau, pan ychwanegwyd Mr. Charles at eu rhif." Fe fu Sul y Cymundeb unwaith yn y mis yno yn meddu at-dyniad mawr, lle y cyrchai tyrfaoedd o bob parth o'r sir, yn gystal ag o siroedd eraill, megis y cyrchai yr holl dywysogaeth cyn hyny i Langeitho. "Yno hefyd y deuai llawer un o lawer cyfeiriad i ymofyn am gyhoeddiadau y cynghorwyr, y rhai, hyd y gallent, a arosent adref ar Sul pen mis. Yn y modd yma yr oedd Sabbath y Cymundeb yn ateb dros ryw dymor yn lle Cyfarfod Misol i'r sir, neu yn lle Cymdeithasfa i Wynedd." Mewn cyfeiriad at yr amser hwn, dywed hen bregethwr yn mhellach, "Cedwid Cyfarfod Misol Sir Feirionydd yn y pen gorllewinol i'r sir yn unig. Yr oedd Mr. Charles yn cyfranu bod mis yn y Bala, ac ar y Sabbath hwnw byddai cyrchu yno o bob rhan o'r wlad, a'r cyfarfod hwn, sef cynulliad pen mis yn y Bala, oedd yn ateb diben Cyfarfod Misol i'r pen dwyreiniol o'r sir." Parhaodd yr arferiad yma, mae'n debyg, i raddau mwy neu lai, hyd amser ordeiniad cyntaf y gweinidogion, yn y flwyddyn 1811. Hysbysir i Gyfarfod Misol gael ei gynal mewn tafarndy unwaith yn Ffestiniog. Nid yw hyn o gwbl yn rhyfedd erbyn ystyried amgylchiadau yr amseroedd, sef prinder y cyfleusderau i gynal y cyfarfodydd, bychander nifer y capelau, a lleied oedd y gwaith oedd i'w wneyd ynddynt. Dywed Robert Jones, Rhoslan, y byddai amryw o Gyfarfodydd Misol Sir Gaernarfon, yn y cyfnod boreuol, yn cael eu cynal mewn tafarndai, oblegid yr un rhesymau. Deuai y pregethwyr ynghyd, ebai yr un gŵr, i drefnu eu cyhoeddiadau am y mis, ac ar ddiwedd y gwaith hwn pregethai un o honynt i ychydig nifer o wrandawyr.
Nid oedd yn Sir Feirionydd, yr amser y cyfeiriwn ato, neb wedi eu gosod yn flaenoriaid, neu yn ddiaconiaid, ar yr eglwysi, mewn trefn reolaidd. Y dynion a alwent am bre-