Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/442

Gwirwyd y dudalen hon

oedd gwir angenrheidrwydd, gan hyny, am eu dysgu, a'u cyfarwyddo, mewn ysgogiad ag oedd mor hanfodol i lwyddiant a chysur y cymdeithasau. Cyfarwyddwyd y cenhadon hyn i ddysgu yr eglwysi i beidio dewis neb, heb o leiaf fedru darllen. Ac am y rhai ag oeddynt yn gweithredu yn ffyddlawn fel diaconiaid, er yn ddiffygiol mewn rhyw gymwysderau, bernid mai dewis cynorthwywyr iddynt a fyddai oreu, ac nid rhai yn eu lle, modd y cyflenwid, trwy y swyddogion newyddion, ddiffygion yr hen swyddogion. Wedi i'r dewisiad yn yr eglwysi fyned heibio, daeth y rhai a ddewisasid i'r Cyfarfod Misol er mwyn adchwilio eu cymwysderau, a'u cynghori a'u cyfarwyddo yn eu gwaith."—Methodistiaeth Cymru I., 574. Cymerodd yr hyn y cyfeirir ato le rywbryd ar ol y flwyddyn 1790, ac mae y drefn a fabwysiadwyd y pryd hwnw gyda dewis blaenoriaid, i fesur, yn cael ei dilyn hyd heddyw. Y ddau brif arweinydd gyda holl symudiadau crefyddol y sir, hyd ddydd eu marwolaeth oeddynt, Mr. Charles a John Evans, o'r Bala. Y flwyddyn yr ymunodd y cyntaf a'r Methodistiaid, sef yn 1785, y dywedodd yr hen barchedig Daniel Rowlands, Llangeitho, am dano-yntau ei hun o fewn pum' mlynedd i derfyn ei oes pan y gwnaeth y sylw—" Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydyw Mr. Charles." Cafodd Sir Feirionydd, yr hon sydd wedi bod yn enwog am ei harweinwyr mewn crefydd, y rhodd hon yn gyntaf ac yn benaf. Dyddiad ei farwolaeth ydyw Hydref 5ed, 1814. Bu yr Hybarch John Evans farw, mewn henaint teg, ymhen oddeutu tair blynedd ar ol Mr. Charles. Dywedir am dano ef iddo gyd-gerdded â thair oes o grefyddwyr, a'i fod "o flaen ei oes mewn craffder, gwybodaeth, "Bu y gŵr hwn yn sefyll yn dyst ffyddlawn o blaid y gwirionedd mewn athrawiaeth a disgyblaeth, ynghylch triugain mlynedd. Nid yn fynych y gwelir y cyffelyb." Mewn hen Ddyddiadur i Mr. Gabriel Davies, y Bala, ceir y sylwadau canlynol o eiddo John Evans, y rhai na fuont yn argraffedig a chyngor."