o'r blaen,—"Hydref 1af, 1816, galwodd [yn nhŷ Mr. G. Davies] yr hen John Evans, oedran 95. Gofynodd a oeddwn yn myned i'r Association i Gaernarfon, a chyda mwy bywiogrwydd nag arferol, archodd i mi ddywedyd, na bo i lefarwyr fyned allan ar draws y wlad heb eu galw, a phan y delont, ddyfod bob yn un, ac nid bob yn ddau. Dywedodd fel hyn, Mae arnaf ofn fod pobl yn meddwl mai pregethu a gwrando yw gwir grefydd. Mae'r corff yn lliosog iawn, ac eisiau trefn a disgyblaeth.' Gofynais, pa fodd yr oedd adnabod y rhai yr oedd yr Arglwydd yn eu galw? Ateb, Tystiolaeth eu cymydogaeth gartrefol am eu buchedd."
Gŵr a ddaeth yn arweinydd crefydd yn y sir cyn symudiad Mr. Charles a John Evans, oedd y Parch. John Roberts, Llangwm. Adnabyddid ef yn nechreu ei oes fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yr un adeg a Mr. Evan Richardson, Caernarfon, ac ystyrid ef yn un o ser disgleiriaf ei wlad yn ei ddydd. Efe ydoedd ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon. Mae y cyfrifon a gadwodd o gasgliad capeli y sir hono, am ddeuddeng mlynedd, ac a gyhoeddwyd mewn cysylltiad a byr hanes o'i fywyd, yn Nghofiant ei fab, y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, yn profi ei fod yn ŵr medrus a deheuig mewn dwyn ymlaen faterion amgylchiadol yr achos. Symudodd, trwy briodi, o Sir Gaernarfon i Langwm, yn Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1809. Ac am y pum' mlynedd ar hugain dilynol, efe oedd Ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, hyd ei farwolaeth, Tachwedd 3, 1834. Dygir tystiolaeth i hyny gan y rhai sydd yn fyw yn awr, a phrofir yr un peth oddiwrth y ffaith fod ei enw i'w weled, yr holl gyfnod yma, ar y tocynau a roddid i'r blaenoriaid pan y derbynid hwy i swydd. Ond mae ei holl gofnodau, fel y mae gwaetha'r modd, wedi myned ar goll.
Y Parch, Richard Jones, y Wern, oedd wr o ddylanwad uwch na'r cyffredin yn y sir. Daeth yntau yma o Sir Gaernarfon,