Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/452

Gwirwyd y dudalen hon

fydd genych yn fwy na phawb a fydd yn gwrando arnoch.' Ei ddywediad synwyrlawn a gododd fy meddwl i fyny o iselder mawr, ac a fu yn gymorth i mi lawer gwaith wedi hyny."

Yr oedd Lewis Morris yn un a reolai gryn lawer yn y Cyfarfod Misol. Byddai yn eu dilyn gyda chysondeb, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, o'r dechreuad. "Dywedodd hen frawd wrthyf," meddai, "yn nechreu fy ngyrfa weinidogaethol, na welodd ef ddim llwyddiant ar un pregethwr Methodistaidd ond a fyddai yn ymdrechu i ddilyn yn gyson Gyfarfodydd Misol ei sir, a Chymdeithasfaoedd Chwarterol y Corff. Glynodd ei sylw yn ddwfn yn fy meddwl, a chefais y fraint yn fy oes o fod yn lled ddigoll yn hyn yma." Heblaw eu dilyn, cymerai ran hefyd, a hono heb fod yn rhan fechan, yn eu gweithrediadau. Byddai ar lawer ei ofn, gan ei fod mor fawr, ac yn gyffredin yn ymosod ar bobpeth; a thua diwedd ei oes, nid oedd fawr neb yn cofio y Cyfarfod Misol heb ei fod ef yn rhan bwysig o hono. Ystyriai yntau ei hun, yn ddigon naturiol, oherwydd mai efe ydoedd tad pawb oll, y dylasai arfer mwy o awdurdod na neb arall. Yn Llanelltyd un tro, pan oedd Mr. Humphrey Davies, Corris, yn llywyddu, ceryddai L. M. yn llym aelodau y Cyfarfod Misol am eu hanffyddlondeb iddo. Ar ol iddo orphen ceryddu, cyfododd y llywydd ar ei draed, a dywedodd, yn ei ddull hamddenol ei hun, "A wyt ti, y Cyfarfod Misol, yn clywed beth y mae Lewis Morris yn ei ddweyd am danat!" Dro arall, yn Nhrawsfynydd, llywyddai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn. Ac yn y seiat gyffredinol, wyth o'r gloch y boreu, eisteddai Lewis Morris ar risiau y pulpud, a'i ffon yn ei law. Ar ddechreu y cyfarfod hwnw, yr oedd pobl y sêt fawr yn bur hwyrfrydig, ac anufudd hefyd i godi i fyny i siarad ar y mater. Gwrthodent o un i un. O'r diwedd, trodd y llywydd at yr hen batriarch ar risiau y pulpud, gan ddywedyd, "Lewis Morris, lle mae'r ffon?" Ar y gair