Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/456

Gwirwyd y dudalen hon

wyf fi yn cael yr olwg gliria ar y Ceidwad, a'm gwaith y dyddiau yma yw cyflwyno fy hunan iddo yn bechadur truenus fel yr wyf, "ac y mae yn ddiameu genyf ei fod ef yn abli gadw yr hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnw." Yr wyf yn hiraethu llawer am fyned i wlad well nag yma, ac yr wyf yn meddwl mai hyn yw fy sail am hyny, fy mod yn rhoddi fy hun i'r Crist a all fy ngwneyd yn barod. Y mae yn dda genyf feddwl am lawer hen adnod yn y Beibl. "I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechreu y byd."—"A'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef."—

—"Parhaed brawdgarwch." Dymunaf ran yn eich gweddiau. Eich anheilwng frawd,

LEWIS MORRIS.

Y PARCH. ROBERT GRIFFITH, DOLGELLAU (A. D. 1793—1844). Yr oedd Robert Griffith, megis y crybwyllwyd, yn ŵr rhadlon a charuaidd, ac o uchel barchedigaeth trwy y wlad yn gyffredinol. O ran y rhagoriaethau a berthynent iddo fel dyn, a'i ymddygiad boneddigaidd ymhob cymdeithas, rhagorai ar y rhan fwyaf o bregethwyr ei oes. Ysgrifenodd ychydig o fywgraffiad iddo ei hun, sef am y rhan foreuol o'i oes, yr hwn a ymddangosodd yn y Drysorfa am y flwyddyn 1847, a cheir ynddo fras olwg ar sefyllfa y wlad y pryd hwnw. Efe oedd y cyntaf o bregethwyr y sir a ordeiniwyd i weinyddu y sacramentau, yr hyn a wnaed yn Mehefin, 1814, sef yr ail ordeiniad yn y Gogledd, a'r olaf i Mr. Charles fod yn bresenol. Mae y ffaith iddo gael ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth mor gynar yn dangos y lle uchel y safai ynddo ymysg ei frodyr. Cadwodd yr un safle barchus hyd ddiwedd ei oes. Er nad oes digwyddiadau hynod a rhamantus yn ei fywyd, eto prin y cyfrifid neb yn fwy ei ddylanwad yn ei sir ei hun, yn gystal ag o'r tu allan iddi. Crybwylla ei fywgraffydd un peth hynod hefyd, sef ei fod wedi llafurio yn y weinidogaeth am