Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/469

Gwirwyd y dudalen hon

Dolgellau. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn. Joseph Thomas, Carno; David Davies, Abermaw; Robert Parry, Ffestiniog; Griffith Williams, Talsarnau; D. Evans, M.A.; William James, B.A.; Owen Jones, B.A.; a D. Jones, Llanelltyd. Cyflwynwyd anerchiad gyda y rhodd, yn yr hon y cyfeirir at wasanaeth effeithiol Mr. Morgan i'r Cyfundeb yn gyffredinol, ac i eglwysi Gorllewin Meirionydd yn arbenig. Pan y cymerwyd ef oddiwrth ei lafur i dderbyn ei wobr, yn 1871, cynyrchwyd teimlad dwys a galar cyffredinol yn y wlad, ac nid rhyfedd hyny, oblegid yr oedd y blaned ddisgleiriaf wedi machludo.

Y PARCH. ROBERT WILLIAMS, ABERDYFI. (A.D. 1842—1862).—Daeth ef i fyw i Aberdyfi y flwyddyn a nodir, a bu am ugain mlynedd yn weinidog llafurus a defnyddiol yn y sir. Nid oedd yn ail i'r penaf yn y Cyfarfod Misol mewn llafur gyda'r weinidogaeth, ac ymroddiad i'r gwaith yn gyffredinol. Cymeriad disglaer, duwiolfrydedd dwfn, diwydrwydd ac ymroddiad i bregethu efengyl y deyrnas, a roddodd iddo ef safle uchel fel gweinidog i Grist. Gwnaeth lawer o waith hefyd mewn adeiladu y saint ac ymgeleddu yr eglwysi, a bu yn gyfrwng neillduol o arbenig yn llaw yr Arglwydd i ddyrchafu crefydd yn ei wlad. Angenrhaid a osodwyd arno er enill bywoliaeth i'w deulu, i fod mewn cysylltiad â masnach ar hyd ei oes, ond o'r dosbarth o weinidogion y bu raid iddynt ymdrafferthu gyda'r byd, anhawdd ydyw cyfeirio at neb a gyfodwyd yn gymaint uwchlaw y byd ag efe.

Bu ar fedr, unwaith neu ddwy, symud i Ddolgellau, i gymeryd gofal eglwys barchus Salem, ac y mae gohebiaeth ar gael a fu rhyngddo â swyddogion yr eglwys i'r amcan hwnw, ond oherwydd rhyw amgylchiadau neu gilydd, syrthiodd y bwriad i'r llawr. Rhydd y Parch Dr. Edwards, y Bala, ei syniad am dano mewn llythyr at Mr. Williams, Ivy House. Gan eu bod mewn angen am weinidog yn Nolgellau ar y pryd,