Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/474

Gwirwyd y dudalen hon

"ddesgrifio pethau yn well nag y medraf wneyd dim arall. Mi fyddaf yn gweled peth o'm blaen, ac ni fydd byth ball am air i'w ddarlunio." Dyna yn union ddarluniad o hono. Ond elai weithiau i ganol yr anialwch gyda'i ddesgrifiadau. Clywyd ef mewn lle cyhoeddus yn darlunio y march yn rhedeg. Dilynai y gymhariaeth yn bur bell, trwy ddweyd fod y march yn galpio ymlaen, yn chwyrnellu myn'd, i fyny y rhiwiau, heibio'r cornelau, trwy ddanedd y llidiardau, ac i ble yr aeth o yn y diwedd ond at ei dòr i'r mwd. Cipid yntau ar ei hynt weithiau, nid yn annhebyg i'r march wedi ei gynhyrfu gan swn y gerbydres, ac odid fawr na byddai wedi myned dros y cloddiau cyn y dychwelai. Gwelwyd ef ryw dro wedi cael llosgi ei fysedd gyda'i gyhoeddiadau Sabbothol. Ymhen. rhai blynyddau wedi hyny yr oedd ymdrafodaeth ynghylch peidio rhoddi cyhoeddiadau gymaint o amser ymlaen llaw. Teimlai llawer yn gryf oherwydd afresymoldeb y peth, a dadleuai rhai brodyr dros beidio rhoi cyhoeddiadau ond hyd ddiwedd y flwyddyn oedd yn cerdded ar y pryd. Yr oedd Mr. Davies ar y fynyd yn erbyn y cynygiad hwnw. "Na," meddai, "mi wnes i gytundeb i beidio eu rhoi pan fu hyn dan sylw flynyddoedd yn ol, ac fe wnaeth pawb o honoch chwi gytundeb, i beidio gofyn na rhoi cyhoeddiad hyd nes y deuai y Dyddiadur allan yn mis Tachwedd; ac erbyn i'r mis hwnw ddyfod, yr oeddych chwi y blaenoriaid yma wedi llenwi eich dyddiaduron, a 'doedd gen i unlle i fyn'd; a'r flwyddyn hono, mi fu raid i mi fyn'd i Cwmystwyth, a Chwm Penmachno, a Chwmpenanar, a Chwmeisian, a 'dwn i sawl cwm y bum i ynddynt; a'r flwyddyn hono yr eis i Leyn ac Eifionydd, ac y torais i fy nghoes."

Fe fu Mr. Davies, modd bynag, o wasanaeth mawr i achos crefydd trwy ei oes faith. Byddai fel castell i lechu yn ei gysgod mewn achosion o ddisgyblaeth yn yr eglwysi, a phan y cyfodai anghydwelediad yn nghynadleddau y Cyfarfod Misol.