Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/476

Gwirwyd y dudalen hon

fyny, a dywedai, "Dydyw hyn yn ddim byd ond bachgen wedi myn'd yn fwy na llon'd ei ddillad. Mi welsoch y bachgen wedi tyfu trwy ei ddillad; ei dad wedi rhoddi dillad nwddion iddo, ond mae'r bachgen wedi tyfu trwy ei ddillad—ei freichiau a'i goesau wedi tyfu trwyddynt, ac mae'n rhywyr cael dillad nwddion iddo eto, ac mae'r tad yn llawenhau drwyddo fod y bachgen wedi tyfu trwy yr hen ddillad. Yr un peth yn union sydd yma—y teithiau wedi tyfu trwy eu dillad. Fe fu yr hen dadau wrthi yn yr ardaloedd hyn, yn ceisio gwneyd dillad i ffitio'r teithiau. Ond bellach, y maent wedi tyfu trwy'r hen ddillad, ac mae eisiau dillad nwddion. Testyn i lawenhau sy' genym ni, fod eisian i ni wneyd dillad nwddion i'r teithiau yma sy' wedi tyfu trwy yr hen ddillad."

Bu y Cyfamod Gras yn fater seiat am wyth o'r gloch yr ail ddydd fwy nag unwaith, a chofir i Mr. Davies wneuthur sylwadau godidog wrth siarad ar y pwnc. Gwnaeth sylwadau tebyg mewn mwy nag un cyfarfod. "Dyma lle mae cadernid y Cristion," meddai, "o'r fan yma mae'r cwbl yn dyfod iddo; o'r cyfamod mae'n derbyn ei gynhaliaeth ar hyd ei fywyd, ac i gysgod y cyfamod y mae'n rhedeg i lechu am noddfa tua'r diwedd. Yn debyg iawn fel y byddwch chwi yn gweled y geifr tua'r creigiau yna. Oddeutu'r graig y mae'r bwch yn troi trwy'r dydd, ac i dop y graig y mae'n myn'd i orwedd at y nos. O'r graig y mae'n cael ei fwyd-deilen o'r fan yma a deilen o'r fan acw rhwng agenau y graig, ac y mae yn ymgripio rhwng ei danedd hi o foreu hyd y nos. Ac wedi delo'r nos, mae o'n gorwedd i lawr ar y graig. Ac mae'n nhw yn dweyd mai ar y graig noeth y myn o fod, heb yr un blewyn na'r un gwelltyn rhyngddo â hi; a dacw fo, yn gorwedd fel brenin ar dop y graig, yn edrych i lawr ar y byd i gyd odditano, uwchlaw y coed a'r ceunant, a'r llynoedd a'r afonydd—mae o yn ei gartref ar dop y graig. Felly mae'r Cristion,