Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/477

Gwirwyd y dudalen hon

ymhob storom y mae creigiau'r cyfamod o dan ei draed o. Mi fu Mr. Charles mewn tipyn o drallod, pan y rhewodd ei fawd o, wrth groesi Migneint yna, yn y flwyddyn 1799, ond dacw yntau yn myn'd i dop y graig, ac yn y fan hono yn cyfansoddi ac yn canu yr hen benill,-

Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun,
Byth ni syfla amod heddwch
Hen gytundeb Tri yn Un.'"

Ar lawer adeg, gyda sylwadau o'r natur yma, cariai gydag ef gynulleidfaoedd cyfain. Y mae dwfn hiraeth yn nheimlad ei frodyr ar ei ol hyd heddyw.

Y PARCH. ROBERT ROBERTS, DOLGELLAU (A. D. 1875—1889). Efe yw yr olaf hyd yn bresenol o'r cedyrn a gwympodd. Ychydig gyda phymtheng mlynedd fu ei arosiad yn y sir hon, ond yr oedd yn ŵr amlwg a blaenllaw yn y Cyfundeb er's llawer o amser, wedi ei ordeinio yn gyflawn weinidog yn y flwyddyn 1853. Feallai mai y crynhodeb goreu ellir ei roddi o'i hanes ydyw yr hyn a ymddangosodd yn y Dyddiadur am y flwyddyn hon. Yr oedd efe yn enedigol o Sir Ddinbych. Oddeutu yr adeg y dechreuodd bregethu, aeth i Athrofa y Bala, a ffurfiodd yno gylch o adnabyddiaeth eang. Yr oedd ganddo ymlyniad mawr wrth yr athrofa, ac efe oedd ei hysgrifenydd am dymor ar ol marwolaeth y Parch. E. Morgan. Ar ol gorphen ei addysg, ymsefydlodd dros ychydig yn y Rhyl. Rhoddwyd galwad iddo oddiyno i fod yn weinidog yn eglwys Seion, Llanrwst. Wedi bod yn gweinidogaethu yno am rai blynyddau, bu yn preswylio yn Abergele. Yn y flwyddyn 1875, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Salem, Dolgellau, ac mewn canlyniad, symudodd i dreulio gweddill ei oes o fewn cylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Ymhen y ddwy flynedd wedi ei ddyfodiad i Ddolgellau, adeiladwyd capel