Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/484

Gwirwyd y dudalen hon

i Owen William fyned i Sir Aberteifi am naw diornod." Eto, "Seion, Mai, 1841: rhoddwyd caniatad i John Williams, Llanfachreth, fyned i'r Deheudir; David Williams, Talsarnau, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith i ryw fan." Oddiwrth y penderfyniadau hyn, gwelir fod Robert Griffith, Dolgellau, yn sefyll mor uchel yn nghyfrif y brodyr fel y rhoddent ganiatad iddo fyned i'r fan y mynai, tra y gofelid dweyd wrth eraill pa bryd y disgwylid hwy i ddyfod yn ol. Blinid y teithiau gyda'r drefn o roddi cyhoeddiadau ymhell ymlaen, mor. bell yn ol a'r tymor hwn. Cawn y mater yn cael ei drafod yn Nghyfarfod Misol y Cwrt, Medi, 1844; ac anogwyd yma i syrthio yn ol ar yr hen drefn, sef "peidio rhoddi rhagor na dau fis."

Pan yr ymwahanodd y ddau ben i'r sir yn y flwyddyn grybwylledig, yr oedd dealltwriaeth yn bod i'r holl sir fod yn un yn y Cyfarfod Misol Chwarterol. Ac am rai blynyddoedd, bu rhai brodyr yn teimlo yn anesmwyth eisiau dychwelyd yn ol at yr hen drefn, i fod yn un yn gwbl oll fel cynt. Cwynid yn fynych oherwydd dieithrwch dau ben y sir i'w gilydd. A bu cynygiad gerbron fwy nag unwaith i ail ymuno. Ond yn mis Tachwedd, 1846, yr ydym yn cael y crybwylliad olaf ar hyn, "Rhoddwyd pleidlais yma yn gytun, mai bod fel yr ydym, yn ddau Gyfarfod Misol, sydd oreu i ni eto rhagllaw." Buwyd, pa fodd bynag, am flynyddoedd wedi hyn yn ystyried y Cyfarfod Chwarterol yn un. Byddai ystadegau blynyddol y ddau ben yn cael eu cyhoeddi yn un hyd o fewn deng mlynedd yn ol. Ac erys yr arferiad dda o gyd-gynorthwyo i ddwyn traul y Cymdeithasfaoedd trwy yr holl sir yn gwlwm effeithiol yr undeb hyd heddyw.

Yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau, Mai 7fed a'r 8fed, 1846 y mae olynydd i'r Parch. Daniel Evans yn cael ei benodi, a'r penderfyniad cyntaf a ysgrifenir gan yr ysgrifenydd newydd. ydyw yr un a ganlyn,—"Fod John Williams, Dyffryn (gynt o Ddolgellau), yn cael ei alw a'i osod i fod yn ysgrifenydd i'r