Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/491

Gwirwyd y dudalen hon

drefnu rhyw foddion i gynorthwyo llefarwyr methedig, a'u gweddwon, a'u plant. Flynyddoedd yn ol casglwyd rhyw gymaint o arian at wahanol achosion, llôg y rhai a ddefnyddir hyd heddyw i gynorthwyo yr achos mewn amrywiol ffyrdd. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1890, darllenodd y trysorydd, Mr. E. Griffith, U.H., Dolgellau, yr adroddiad canlynol o'r Drysorfa a elwir Eiddo y Cyfarfod Misol,- Yn y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Nolgellau, Medi, 1841, cytunwyd ar amryw benderfyniadau mewn cysylltiad â'r Athrofa yn y Bala; ac yn.un peth, penodwyd y swm oedd yn disgyn ar bob Cyfarfod Misol at gynal yr Athrofa: a'r rhan oedd yn disgyn ar Sir Feirionydd, yn ol y trefniant yma, oedd 45p. yn flynyddol, sef 22p. 10s. ar y pen dwyreiniol, a'r un swm ar y rhan orllewinol. Hefyd, yr un adeg, penderfynwyd fod yr holl siroedd i wneyd ymdrech i sicrhau cronfa, fel y byddai y llogau yn ddigon i gyfarfod â hyn. Mae yn debyg i'r Cyfarfod Misol benodi Mr. Humphreys a Mr. Williams, Dolgellau, i gyflawni y gorchwyl yma, o'r hyn lleiaf, maent hwy yn ymgymeryd â'r gwaith, ac yn dechreu yn Nolgellauyn gynar y flwyddyn ganlynol, 1842.

£ s. c.
Mrs. Jones, Warehouse, 100p.; Mrs. Owen, 10p.; Mr. Wm. Jones, Shop Newydd, 20p.; Mrs. Griffith, 5p.; Mrs. Jane Jones, 5p.; Mr. Lewis Pugh, 5p.; Lewis Morris, 1p.; Mrs. Williams, Tŷ'nycelyn, 10p.; gŵr dieithr o Fanchester, 5p.; llogau, &c.
163 16 0
Eto, yn ol y list heb enwau, 88p. 17s. 6c.; Lewis Williams, 5p.; Jane Pugh, Caecrwth, 5p.; Sylfanus Jones, Abergeirw, 2p.; Abermaw, 12p. 3s.; o'r Gwynfryn, 6p. 3s.; o Harlech, 3p. 4s.; Talsarnau, 11s. 6c.; Bethesda, 8p.; Trawsfynydd, 1p.: Cwmprysor, 1p.; Tanygrisiau, 3p. 15s. 6c.; Maentwrog, 5p.; llogau, &c
141 17 0
305 13 0