cwrs yr amseroedd a theimlad y wlad yn profi erbyn hyn, modd bynag, nas gall yr eglwysi ddim llwyddo heb fod o dan arolygiaeth gweinidogion o'u galwad eu hunain, ac o osodiad rheolaidd. Nid felly yr oedd yr amser y cyfeirir ato, a gwaith mawr, aruthrol fawr, oedd newid pethau o'r hen ddull i'r dull presenol. Amcenir yn y benod hon roddi ychydig o hanes y gwahanol symudiadau gydag arolygiaeth yr eglwysi. Ac wrth ymdrin â'r mater, bydd yn rhaid i un o weinidogion y sir, uwchlaw pawb oll, gael y lle amlycaf yn yr ymdrafodaeth, sef y Parchedig Edward Morgan, y Dyffryn, oblegid trwy ei offerynoliaeth ef y rhoddwyd ysgogiad i'r symudiad, y dygwyd ef ymlaen, ac y cariwyd ef allan i fuddugoliaeth. Efe ei hun oedd y gweinidog cyflogedig cyntaf yn y rhan orllewinol o Feirionydd. Bu yn weinidog yn Nolgellau, trwy alwad reolaidd yr eglwys yno, am ddwy flynedd, o ganol y flwyddyn 1847 i ganol 1849. A rhyw ddau neu dri, fe ddywedir, o weinidogion a fu mewn cysylltiad rheolaidd âg eglwysi o'i flaen ef, ymhlith y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru.
Y crybwylliad cyntaf a gawn am y symudiad a elwir wrth yr enw "bugeiliaeth eglwysig," yn y sir hon, ydyw yn mis Mai, 1846. Mae'n wir i'r Parch. Richard Humphreys ddweyd geiriau cryfion ar y mater wrth draethu ar "Natur Eglwys" yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1841. Traethodd y Parch. John Hughes, Pontrobert, hefyd, yn bendant yn yr un lle, ac wrth gyflawni yr un gwasanaeth, yn 1845, am ddyledswydd yr eglwysi i alw ar weinidogion i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol i'w gwasanaethu yn yr efengyl. "Gellwch ddeall," meddai, "nad wyf fi yn traethu ar y pwnc hwn er fy mwyn fy hun. Pe buasai rhywbeth yn cymeryd lle ddeng mlynedd ar hugain yn ol, buasai hyny, feallai, yn rhyw fantais i mi; ond er mwyn y gwaith a'r achos ynddo ei hun, ystyriwch y peth." Yr oedd yr hen batriarch o Bontrobert uwchlaw deg a thriugain mlwydd oed pan yn traethu yr araeth hon, felly nid oedd lle i