Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/499

Gwirwyd y dudalen hon

Parchedig Edward Morgan ei gynllun gyda golwg ar y pen yma i'r sir i sylw, sef, Fod 3p. i gael eu rhoddi ar gyfer pob eglwys fel eu gilydd i'r pregethwr a elwir ganddynt i'w bugeilio, a bod yr arian hyn i ddyfod oddiwrth eisteddleoedd y gwahanol gapeli, rhai fwy a rhai lai, yn ol eu maintioli a'u cryfder,—yr eglwysi cryfaf i roddi 5p. yr un i'r Fund, eraill 4p., eraill 3p., eraill 2p., a rhai 1p. 10s., neu lai, yn ol fel y cytanid ar hyn rhagllaw; fod yr eglwysi cryfion yn y wedd hon i gynorthwyo y rhai gweiniaid. A phenderfynwyd myned a hyn i Bwllheli, yn fynegiad o'r modd y bwriadwn ni weithredu y ffordd hyn." Bellach dyma ddechreu gweithio, ac mor sicr a hyny mae y frwydr hefyd yn dechreu. Yn Nghyfarfod Misol Medi, yn Nghorris: "Holwyd y gwahanol eglwysi rhwng y Ddwy Afon ynghylch y modd yr oeddynt yn gweithredu gyda golwg ar y Fugeiliaeth Eglwysig. Dangoswyd y pwys sydd yn hyn gyda golwg ar yr eglwysi eu hunain, yn gystal a chyda golwg ar y rhai a elwir gan yr eglwysi i ofalu am danynt, o dan yr enw o fugeiliaid. Gadawyd y peth i fod dan ystyriaeth yr eglwysi hyd y Cyfarfodydd Misol dilynol." Erbyn Cyfarfod Misol Hydref, yn Ffestiniog, yr oedd y gwrthwynebiadau wedi cyfodi, oblegid yr anhawsder i ddyfod o hyd i'r arian, ond "boddlonodd pawb yn y cyfarfod hwn i roddi prawf arno." Cyffelyba Mr. Morgan Towyn a'r Gwynfryn i Waterloo a Thrafalgar, ar gyfrif y brwydro fu yno mewn cysylltiad â bugeiliaeth eglwysig. Swm yr hyn a gofnodir am y ddadl Nhowyn ydyw, i'r mater fod yn hir dan sylw yno, a methwyd a chytuno yn ei gylch. Yn y Cyfarfod Misol dilynol, yn Harlech, ddiwedd Tachwedd, bu trafodaeth helaethach:— "Dywedai y Parch. Edward Morgan yn egniol ar hyn, i'r perwyl a ganlyn, Mai efengylwyr ydym ni yn awr heb gysylltiad iawn rhyngom & neb. Egwyddor y Testament Newydd ydyw, gosod rhai yn apostolion yn gystal a rhai yn efengylwyr. Yr oedd Pedr yn apostol i'r enwaediaid, a Phaul