Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/500

Gwirwyd y dudalen hon

yn apostol i'r cenhedloedd. Nid rhyw fyned a dyfod o hyd, fel pe bai o Gaergybi i Gaerdydd. Nage, eithr bu Paul un flwyddyn yn Antiochia; blwyddyn a haner yn Ephesus; a dwy flynedd yn Corinth. Ac felly yr oedd yn nechreuad Methodistiaeth yn Nghymru, yn amser Rowlands, a Harries, ac Ebenezer Morris. Ac ond darllen y Testament Newydd, ceir gweled nad oes gan yr un eglwys hawl i dderbyn aelod nac i dori allan ychwaith, heb fod yr oll o'r eglwys yno, sef y gweinidog, y blaenoriaid, a'r aelodau, 'a fy ysbryd inau,' medd yr apostol. Ond wedi'r cwbl, rhyw led ddyrus oedd hi yma gyda'r cynllun. Cwynid gan amryw oblegid maint y dreth a osodid arnynt; ac ymwrthodai cyfeillion Ffestiniog a'r rhwymau a osodid arnynt hwy o estyn 2p. i gynorthwyo yr eglwysi gweiniaid, eithr dywedent y gwnaent gasgliad yn eu plith i unrhyw eglwys a ddeuai a'i chwyn atynt. Ni ymddangosai eu bod am roddi y 3p. eraill ychwaith i'r tri phregethwr sydd yn eu plith yn byw—y rhai, meddynt hwy, oeddynt yn ddewis i arolygu arnynt. Felly, rhwng pobpeth, edrych yn dywyll yr oedd hi ar y peth hyd yma; a'r diwedd fu penderfynu fod Cyfeisteddfod i gyfarfod yn Nolgellau i ystyried y mater."

Y brodyr a benodwyd yn gyfeisteddfod oeddynt, y Parch. E. Morgan, Mri. John Lloyd, Harlech; Morgan Owen, Glynn; Morris Llwyd, Trawsfynydd; Humphrey Davies, Corris; Griffith Jones, Gwyddelfynydd; William Rees, Towyn; a'r Ysgrifenydd (y Parch. John Williams). Penderfyniadau y Cyfeisteddfod, y rhai a gymeradwywyd gan y Cyfarfod Misol oeddynt:"1 Fod gan bob eglwys hawl i ddewis y neb a ewyllysio i'w bugeilio. 2 Fod y bugail i arolygu holl achos yr eglwys, ac i fod yn gyfrifol i'r Cyfarfod Misol am yr oll a drinir yno. 3 Disgwylir iddo fod yn bresenol yno, o leiaf, unwaith yn y mis, a gwneuthur ymdrech i fod yn amlach os bydd modd. 4 Fod i'r eglwys dalu swm blynyddol iddo am