buasai ambell briodas yn cael ei datod. Ond ni phery y teimlad yna ond am amser byr. Cyfyd cariad o burach natur, ac ar seiliau gwell, rhwng yr eglwys a'r bugail, yr hwn a ffurfia undeb a bery hyd angau. Peth arall sydd a fyno â'n heddwch ydyw, nad oes dim hawkers yn cael eu cadw yma i gario chwedleuon am fugeiliaid. Y maent yn dyfod atom o leoedd eraill weithiau, ond yn dianc yn fuan, onidê cymerid hwynt i fyny yma fel terfysgwyr.
"Gwn fod llawer o gablu ar fugeiliaeth, ac yn wir ar fugeiliaid; dywedir ei bod hi yn fethiant, &c.; ond nid ydyw felly yma. A pha beth bynag a ddywedir am fugeiliaeth, y mae y ffeithiau a nodwyd yn parhau. Y mae Sir Feirionydd yr hyn ydyw hi heddyw, naill ai oherwydd bugeiliaeth, neu er gwaethaf bugeiliaeth: os o'i herwydd hi, yna rhaid ei bod hi yn beth da iawn; os er ei gweithaf hi, rhaid nad ydyw hi ddim yn beth drwg iawn, onidê nis gallasai cymaint o lwyddiant fod mewn sir sydd mor llawn o honi. Cymerwch yr olwg a fynoch ar y pwnc, daw bugeiliaeth allan yn fuddugoliaethus. Os wyf wedi amlygu gormod o frwdfrydedd wrth roddi yr achos ger eich bron, maddeuwch i mi. Y mae fy sel drosto yn codi oddiar fy nghariad at Fethodistiaeth. Nid canmol fy hun a'm brodyr oedd fy amcan. Mi ddymunwn ddweyd, a diau mai hyny ydyw eu teimlad hwythau, Nid i ni, O Arglwydd, ond i'th enw dy hun dod ogoniant.' Ond fy amcan ydoedd i'r siroedd eraill, oddiwrth yr hyn a fu yn y sir hon, weled nad oes achos iddynt ofni bugeiliaeth. A dymunwn ddweyd, hefyd, na ddaw neb i'w deall hi yn dda ond trwy edrych arni yn gweithio. Fe siaradwyd, ac fe ddadleuwyd rhyw gymaint yn ei chylch hi yma, ond fe ddechreuwyd ei hymarfer hi yn hir cyn penderfynu y pynciau mewn dadl, a hyny a ddygodd ei barn hi allan i fuddugoliaeth. Bu cryn ddadleu ynghylch gallu ager i yru llongau tua dechreu y ganrif. Ysgrifenwyd llawer i brofi fod y peth yn anmhosibl; "