Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/515

Gwirwyd y dudalen hon

mwy ffafriol nag sydd mewn unrhyw sir arall. Pa beth ydyw y rhywbeth hwnw, nid oes neb yn dweyd. Ond fe ddywed pawb fod yma rywbeth. Rhaid ynte, mai rhywbeth yn ei hawyrgylch ydyw, neu yn ei mynyddoedd, neu yn ei chymoedd culion. Nid dim yn yr eglwysi ydyw. Y mae genym ni yn y sir hon yr un anhawsderau i fyned drostynt ag sydd yn awr i'w cael mewn siroedd eraill. Ond os dymunir cael mewn un gair ddirgelwch llwyddiant y sefydliad hwn, dyna fe, y diweddar Barch. E. Morgan. Cafodd hyn ei gydnabod ar lan ei fedd. Dioddefodd Mr. Morgan lawer, ac fe gawsai ddioddef mwy o'r haner onibai ei fod yn bregethwr mor dda. Ni fuasai llawer blaenor byth yn gofyn ei gyhoeddiad pe buasai yn gwybod pa fodd i fyw gyda'r gynulleidfa heb wneyd. Y mae yn wir fod y diweddar Barch. Robert Williams, Aberdyfi, a'r Parch. Richard Humphreys wedi rhoddi llawer o gynorthwy iddo, ond efe oedd raid fyned i'r dwfr. Efe fyddai yn llabyddio y gwrthddadleuon, a byddent hwythau yn dal ei ddillad."

Pethau a fu ydyw y pethau a ddywedwyd, ac fe gyfaddefa pawb fod y pethau y sydd yn dra gwahanol. Mae yr hyn oedd unwaith yn deimlad ychydig nifer, erbyn hyn wedi dyfod yn deimlad gwlad, a'r eglwysi o fach i fawr wedi eu hargyhoeddi mai y ffordd i ddisgwyl llwyddiant yn y pethau a berthyn i deyrnas nefoedd ydyw trwy fod dan arolygiaeth gweinidogion o'u galwad eu hunain, ac o osodiad rheolaidd, yn ol dysgeidiaeth y Testament Newydd. Cyfodai gynt wrthwynebiad cryf i'r fugeiliaeth eglwysig o bob cwr, ac fel y dengys y penderfyniadau yn y tudalenau blaenorol, gorchfygwyd llu ar ol llu o anhawsderau, er dyfod a phethau i'r sefyllfa y gwelir hwy y dydd heddyw. "Er cryfed y gwrthwynebiad i'r drefn hon," ebai Mr. Morgan yn ei ddydd, "y mae yn dyfod fel llanw'r môr." Ac megis y rhag-ddywedodd, felly y daeth. Cafodd ef fyw i weled y llanw wedi cyfodi yn lled uchel, ac y