Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/519

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD V.

ARHOLIAD SIROL YR YSGOL SABBOTHOL

CYNWYSIAD.—Yr amser y dechreuodd yr Arholiad—Rhodd mewn ewyllys at yr Ysgol Sul—Cadben Henry Edwards—Y pwyllgor cyntaf—Y Rheolau cyntaf—Rhestr o'r buddugwyr yn yr Arholiad.

 YMUDIAD wedi cychwyn yn ddiweddar yn ein plith ydyw yr arholiad mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Nid oedd son am dano ugain mlynedd yn ol. Ond erbyn hyn, y mae arwyddion fod holl siroedd Cymru wedi ymgymeryd âg ef, i fesur mwy neu lai. Wedi ei weled yn myned gymaint ar gynydd, a hyny gyda chamrau breision mewn rhai manau, diameu y bydd gwybod hanes dechreuad y symudiad yn fanteisiol yn yr amser a ddaw. Cynhaliwyd yr Arholiad cyntaf, yn y wedd yma, o fewn cylch Cyfarfod Misol Trefaldwyn Isaf, oddeutu y flwyddyn 1873. Yn 1875, ffurfiwyd Undeb Ysgolion Sabbothol Môn. Gorllewin Meirionydd oedd y nesaf o'r Cyfarfodydd Misol i ymgymeryd â'r anturiaeth. Yr oedd cynlluniau wedi eu rhoddi ar droed yma gyda'r symudiad ddwy neu dair blynedd cyn dechreu yn weithredol ar y gwaith. Yn 1877 y cynhaliwyd yr arholiad cyntaf yn y rhan hon o'r sir, ac fe ddechreuodd dwy o'r siroedd eraill yn union ar ol hyny.

Yr achlysur i roddi cychwyniad i'r symudiad yn Ngorllewin Meirionydd ydoedd, i swm o arian gael ei adael mewn ewyllys, tuag at achos crefydd ymhlith y Methodistiaid, mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Y gwr a'u gadawodd oedd Cadben