Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/520

Gwirwyd y dudalen hon

Henry Edwards, mab i John ac Ann Edwards, o Arthog. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda'i rieni yn eglwys y Methodistiaid yn yr ardal hono. Aeth i'r môr pan yn ieuanc, a thueddai, fel llawer o fechgyn wedi myned oddicartref, i bellhau oddiwrth grefydd. Ond yr oedd yr argraffiadau a dderbyniasai yn ei febyd yn para heb eu dileu, a glynasant wrtho ar hyd y blynyddoedd. Wedi iddo adael y môr, dywedai wrth gyfaill iddo ei fod yn awyddus iawn i gael ymuno â'r eglwys drachefn, ac i wneuthur rhywbeth oedd yn ei allu tuag at yr achos mawr mewn cysylltiad â'r Methodistiaid. A'r canlyniad fu iddo adael yn ei ewyllys 150p., yn ngofal Mri. Elias Pierce, Birkenhead, a John Lloyd Jones, Liverpool, i'w defnyddio yn y modd y barnent hwy yn oreu. Cyn hir wedi hyn, gwaelodd ei iechyd; ac ar ol rhai wythnosau o gystudd, bu farw, yn nhŷ ei chwaer hynaf, yn y Lodge, Arthog, a chladdwyd ef yn mynwent Llwyngwril.

Trosglwyddodd Mr. Elias Pierce yr arian drosodd i ofal Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, a gynhaliwyd yn Nolgellau, Ionawr, 1875. Rhoddwyd receipt am danynt, wedi ei arwyddo gan y trysorydd, a chyflwynwyd diolchgarwch cynes y cyfarfod i Mr. Pierce am ei ewyllys da tuag at y Cyfarfod Misol, ac am ei ffyddlondeb yn dyfod o Birkenhead yn bwrpasol i gyflwyno yr arian, ynghyd a 5p. o lôg a dderbyniasai oddiwrthynt hyd y pryd hwnw. Gan fod y Legacy Duty wedi ei dalu allan o'r swm gwreiddiol, rhoddwyd yr arian ar lôg yn enw trysorydd y Cyfarfod Misol, hyd nes iddynt gyraedd y swm llawn o 150p. Yn mis Ebrill, yr un flwyddyn, penododd y Cyfarfod Misol bedwar o bersonau—un o bob Dosbarth Ysgol,—sef y Parchn. D. Roberts, Rhiw; D. Jones, Llanbedr; J. Davies, Bontddu; R. Owen, M.A., Pennal, ynghyd a Mr. Elias Pierce, Birkenhead, yn bwyllgor i ystyried y ffordd oreu i ddefnyddio yr arian at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Ac un o'r rheolau cyntaf oedd, fod dau o