gynhaliwyd yn Nolgellau. Yn ol trefniad y Pwyllgor bwriedid y Gynhadledd er cael ymgynghoriad rhwng cynrychiolwyr a swyddogion yr Ysgolion Sabbothol yn y cylch ar wahanol faterion yn dwyn cysylltiad â llwyddiant y sefydliad, gan gymeryd mantais ar y brwdfrydedd oedd yn y wlad yn y flwyddyn 1885 i sylwi ar ragoriaethau a diffygion y gorphenol, ac i ystyried pa beth a ellid ei wneuthur tuag at ymgyraedd at fwy o lwyddiant yn y dyfodol. Yr oedd y drefnlen ganlynol wedi ei pharotoi y flwyddyn flaenorol, yn cynwys y materion a ddygid gerbron, ynghyd â'r personau a fwriedid i gymeryd rhan yn ngweithrediadau y dydd.
Fod Trefn Cyfarfodydd y Gynhadledd i fod fel y canlyn:—
CYFARFOD Y BOREU AM 10 O'R GLOCH.
LLYWYDD E. GRIFFITH, YSW., U.H., DOLGELLAU.
1. Darllen papyr gan y Parch. D. Roberts, Rhiw, ar "Y lle ddylai athrawiaethau crefydd gael yn addysg yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach ar yr un mater, y Parchn. J. Davies, Bontddu; W. Thomas, a J. H. Symmond.
2. Darllen papyr gan y Parch. W. Williams, Corris, ar "Pa fodd i ychwanegu effeithiolrwydd y Cyfarfodydd Ysgolion." I wneyd sylwadau pellach Mri. R. Jones, New Shop, Dolgellau; D Rowland, Pennal; a'r Parch. R. Owen, M.A.
CYFARFOD Y PRYDNAWN AM 2 O'R GLOCH.
LLYWYDD MR. G. JONES, TYMAWR, TOWYN.
1. Darllen papyr gan y Parch. E. J. Evans, Llanbedr, ar "Yr holwyddori yn yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach Parchn. W. Davies, Llanegryn; H. Roberts, Siloh; a Mr. W. Williams, Tanygrisiau.
2. Darllen papyr gan Mr. Rowland, Board School, Penrhyndeudraeth, ar "Y ffordd fwyaf effeithiol i gyfranu addysg yn